Heddiw (dydd Llun, Awst 8), fel rhan o ddathliadau’r canmlwyddiant, mae’r Urdd yn dod â gosodiad dros dro i farchnad dan do newydd Casnewydd.

Mae Mainc Hunlun Mistar Urdd, yn cynnig cyfle i unigolion, ffrindiau a theulu gael eistedd, mwynhau’r awyrgylch a chymryd hunlun gyda Mistar Urdd, fel rhan o gystadleuaeth i ennill y fainc am wythnos i ysgol, elusen neu fudiad.

Dechreuodd Mainc Hunlun Mistar Urdd ar ei thaith haf ar yr Wyddfa ger Llyn Llydaw, cyn ymweld â Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ac yna i ddangos cefnogaeth i Dîm Cymru yn Nhŷ Tîm Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad.

Yr Urdd yw partner elusen Tîm Cymru gyda Mistar Urdd yn fasgot swyddogol iddyn nhw ar gyfer Gemau’r Gymanwlad sy’n dod i ben yn Birmingham heddiw (dydd Llun, Awst 8).

Cyn ei hymweliad â Chasnewydd, sef ei hunig leoliad yn y de, tarodd y fainc i mewn i’r Eisteddfod Genedlaethol yng Ngheredigion.

Bydd y fainc hunlun yn aros ym Marchnad Dan Do Casnewydd tan Awst 15, gan ganiatáu digon o amser i drigolion Casnewydd ac eraill o bob rhan o’r de ymweld â’r ddinas a’r farchnad newydd.

A chyn i’r fainc wneud ei hymweliad olaf ag un o wersylloedd preswyl yr Urdd, bydd enillydd y gystadleuaeth yn ennill y fainc i’w ysgol, elusen neu gymuned am wythnos yn yr hydref.

Mae’r Urdd yn annog pawb i rannu’u hunluniau gan ddefnyddio #HunlunMistarUrdd ar y cyfryngau cymdeithasol er mwyn cael cyfle i ennill Mainc Hunlun Mistar Urdd am wythnos yn yr hydref.

Mae gwybodaeth am y gystadleuaeth i’w gweld ar wefan y fainc hunlun :www.urdd.cymru/cy/hunlunmistarurdd

‘Diogelu’r Urdd am ganrif arall’

“Nod Mainc Hunlun Mistar Urdd yw dathlu ein canmlwyddiant, tra’n diolch i’r rheini sydd wedi bod ymhlith y pedair miliwn o aelodau yn ystod y 100 mlynedd diwethaf,” meddai Siân Lewis, Prif Weithredwr yr Urdd.

“Ond mae hefyd yn ymwneud â diogelu’r Urdd am ganrif arall, drwy ein helpu i godi ymwybyddiaeth o’r Urdd gyda chynulleidfaoedd newydd.

“Ry’n ni’n galw ar holl deuluoedd Casnewydd a’r de i ddod i ymuno â chystadleuaeth haf Mistar Urdd ac i dynnu eu hunlun gyda Mistar Urdd ym marchnad dan do wych Casnewydd.”

‘Gosod ein hunain ar y map’

“Mae cael ein rhestru fel un o blith digwyddiadau a lleoliadau eiconig fel yr Wyddfa, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, yr Eisteddfod Genedlaethol a Gemau’r Gymanwlad yn ganmoliaeth fawr i Farchnad Casnewydd ac mae’n dangos ein bod ni’n gosod ein hunain ar y map go iawn,” meddai Sasha Masters, Rheolwr Digwyddiadau Marchnad Casnewydd.

“Rydyn ni’n edrych ymlaen at groesawu wynebau hen a newydd i’r farchnad i dynnu eu hunlun gyda Mistar Urdd a chymryd rhan yn y gystadleuaeth i ennill y fainc am wythnos.

“Diolch am ymweld â ni Mistar Urdd a Phen-blwydd Hapus i’r Urdd!”