Bydd Prif Weinidog Cymru’n ymweld â Gwlad Basg yr wythnos hon i gwrdd â Llywydd Llywodraeth y wlad, gweinidogion y Llywodraeth a Llywydd Senedd Gwlad Belg.

Prif ffocws ymweliad Mark Drakeford fydd datblygu economaidd, ynni adnewyddadwy a’r cyfleoedd am gysylltiadau economaidd agosach a mwy o gydweithredu rhwng y ddwy wlad.

Bydd cyfle hefyd i drafod y llwyddiant i hyrwyddo’r Fasgeg a’r degawdau o gydweithredu rhwng y ddwy wlad ym maes hyrwyddo ieithyddol.

Ar ei ymweliad, bydd Mark Drakeford yn cwrdd â CAF a Gestamp, dau gwmni o Wlad Belg sydd â chysylltiadau â Chymru.

Daeth CAF i Gymru gyntaf yn 2017 i weithgynhyrchu cerbydau trên ar gyfer rhwydwaith y Deyrnas Unedig, ac maen nhw’n cyflogi 220 o bobol mewn ffatri ar safle hen waith dur Llanwern yng Nghasnewydd.

Mae Gestamp yn gwmni sy’n cyflogi 255 o bobol yn Llanelli ac yn arbenigo mewn dylunio a chynhyrchu rhannau ar gyfer cwmnïau cynhyrchu ceir, ac mae ganddyn nhw safleoedd mewn sawl gwlad.

‘Perthynas glos’

Ynghyd â hynny, bydd y Prif Weinidog yn traddodi araith yn y gynhadledd Metropolis y Dyfodol, gan ddisgrifio’r gwaith sy’n cael ei wneud yng Nghymru ar heneiddio’n iach a chenedlaethau’r dyfodol.

“Mae perthynas glos wedi bod rhwng Cymru a Gwlad y Basg ers blynyddoedd lawer, gan weithio gyda’n gilydd a dysgu oddi wrth ein gilydd ym maes datblygu ieithyddol,” meddai.

“Mae gennym berthynas economaidd sy’n blodeuo – ac mae potensial mawr iddi dyfu yn y dyfodol.

“Mae’r ymweliad yn gyfle i ategu bod Cymru’n wlad Ewropeaidd o hyd.

“Byddwn yn parhau i feithrin a chryfhau ein cysylltiadau ledled Ewrop i greu gwlad gryfach, decach a gwyrddach i’r bobl sy’n byw ac yn gweithio yng Nghymru, ac i fusnesau ac i’n partneriaid.”