Mae deiseb heddwch a gafodd ei llofnodi gan bron i 400,000 o fenywod yn dychwelyd i Gymru wedi canrif yn yr Unol Daleithiau.
Ym 1923, trefnodd menywod Cymru ymgyrch dros heddwch byd-eang wedi i erchyllterau’r Rhyfel Byd Cyntaf ysgogi cenhedlaeth gyfan i sefyll dros heddwch.
Cynigiwyd y dylid lansio ymgyrch i sicrhau bod menywod America’n clywed lleisiau menywod Cymru a chydweithio dros fyd heb ryfel yng nghynhadledd Undeb Cynghrair y Cenhedloedd Cymru yng Ngholeg Prifysgol Aberystwyth.
Llofnododd 390,296 o fenywod Cymru’r ddeiseb, ac o fewn saith mis, aeth Annie Hughes-Griffiths, Mary Ellis, Elined Prys a Gladys Thomas i’r Unol Daleithiau gyda chist dderw â’r ddeiseb ynddi.
Yn ôl y sôn, roedd y ddeiseb yn saith milltir o hyd.
Cafodd ei chyflwyno i fenywod yr Unol Daleithiau gan ddirprwyaeth o fenywod o Gymru yn Efrog Newydd, ac mae’r gist a’r ddeiseb wedi cael eu cadw yn Amgueddfa Genedlaethau Hanes America y Smithsonian yn Washington DC ers hynny.
Bu’r ddirprwyaeth hefyd yn ymweld â Chicago, Salt Lake City, San Fransisco, Los Angeles, Utica, a’r Tŷ Gwyn, lle’u croesawyd gan yr Arlywydd Calvin Coolidge.
‘Hanes yn perthyn i bob un ohonom’
Ers 2019, mae Pwyllgor Partneriaeth Hawlio Heddwch wedi bod yn cydweithio gyda Llyfrgell Genedlaethol Cymru i fenthyg y gist a rhai o’r deisebau.
Mae’r gist nawr ar ei ffordd i’w chartref newydd yn Aberystwyth, ac mae disgwyl iddi gyrraedd yn yr wythnos nesaf.
Jill Evans ydy cadeirydd grŵp Heddwch Nain/Mam-gu Cymru, grŵp sydd wedi bod yn allweddol wrth ddod â sylw i’r mater.
“Ysbrydolodd y daith heddwch unigryw a rhyfeddol hon gan fenywod yng Nghymru gan mlynedd yn ôl gymaint o bobol ac mae’n parhau i wneud hynny,” meddai Jill Evans.
“Mae’r hanes hwn yn perthyn i bob un ohonom.
“Mae angen inni gofio a rhannu’r stori, i ddathlu ei llwyddiant ond hefyd i ailddatgan ei nod o fyd di-ryfel.
“Sefydlwyd Heddwch Nain/Mam-gu i barhau ymgyrch y menywod hyn dros heddwch.”
‘Cefnogaeth rhwng chwiorydd’
Dywedodd Anthea M. Hartig, Cyfarwyddwr Elizabeth MacMillan, Amgeuddfa Genedlaethol Hanes America, bod y ddeiseb yn “esiampl hardd o gefnogaeth rhwng chwiorydd”.
“Am yn agos at ddegawd cafodd y gist ei harddangos yn ein hamgueddfa er mwyn egluro defnydd rhwydweithiau menywod i eirioli dros heddwch.
“Mae trosglwyddo’r gist a’r deisebau i Lyfrgell Genedlaethol Cymru’n anrhydedd a thestun balchder i ni, gan ei dychwelyd adref ar gyfer ei chamlwyddiant.”
‘Braint aruthrol cofio’
Heddiw (Mawrth 29), bydd cynrychiolwyr o Gymru, gan gynnwys Academi Heddwch Cymru, Heddwch Nain/Mam-gu, Llywodraeth Cymru, y Llyfrgell Genedlaethol a Phrifysgol Cymru, yn cwrdd â staff y Smithsonian er mwyn nodi’r achlysur.
Wedi cyrraedd Aberystwyth, bydd cynnwys y gist yn cael ei ddigido yn y Llyfrgell Genedlaethol.
Bydd arddangosfa’n cael ei threfnu yn ystod 2023-24 i gyflwyno’r gist a’r ddeiseb yn Aberystwyth, Sain Ffagan a Wrecsam hefyd.
Ychwanega Mererid Hopwood, Cadeirydd y Bartneriaeth: “Yn helbul ein byd ni heddiw, mae’n fraint aruthrol cofio bod menywod Cymru, ganrif yn ôl, wedi bod yn ddigon eofn i fynd ati i geisio dod â heddwch i’r ddaear gyfan.
“Ein gobaith ni yw y bydd yr ysbryd hwn o gydweithio rhyngwladol er mwyn creu byd teg a di-drais yn dod o hyd i leisiau newydd drwy’r prosiect hwn.”