Cafodd bron i hanner yr ysgolion ym Mwrdeistref Sirol Caerffili rybudd i wella’u darpariaeth Gymraeg yn dilyn arolygon gan Estyn yn ystod 2022.

Cafodd pum ysgol allan o 11 oedd yn destun arolwg y llynedd gyngor i godi safon eu Cymraeg, sef Ysgol Gynradd Bryn, Ysgol Gynradd Cefn Fforest, Ysgol Gynradd Crumlin, Ysgol Uwchradd Lewis i Ferched, ac Ysgol y Lawnt.

Yn ystod cyfarfod o’r pwyllgor craffu ar addysg ddoe (dydd Mawrth, Mawrth 28), dywedodd y Cynghorydd John Roberts o Blaid Cymru, fod angen cefnogaeth ar athrawon i wella’u hyder wrth ddefnyddio’r Gymraeg ac addysgu trwy gyfrwng yr iaith.

“Mae’n hawdd i fi fel rhywun roddodd y gorau i ddysgu flynyddoedd yn ôl ddweud mai’r ffordd i wella’r Gymraeg yw cael pobol i siarad Cymraeg,” meddai’r cynghorydd sy’n cynrychioli ward Aber Valley.

‘Mwy o gyfleoedd’

Ychwanegodd fod angen mwy o gyfleoedd ar ddisgyblion ac athrawon i ddefnyddio’r iaith i adeiladu eu hyder.

Cadarnhaodd swyddogion y Cyngor fod yr iaith Gymraeg yn faes mae’r Cyngor yn ymwybodol fod angen gwaith arno.

Dywed Edward Pryce, cyfarwyddwr cynorthwyol Gwasanaeth Cyflawni Addysg De-ddwyrain Cymru, fod arian ar gael i gynnig secondiadau i athrawon i wella’u Cymraeg.

“Nid arian yw popeth,” meddai’r Cynghorydd John Roberts.

“Efallai ein bod ni’n cael bwcedeidiau o arian parod, ond nid popeth mo hynny.”

Dywedodd y byddai adroddiad dynodedig ar ddarpariaeth iaith Gymraeg yn cael ei gyflwyno i’r pwyllgor yn y dyfodol.