Mae gwefan newyddion golwg360 wedi sicrhau £330,000 o arian ychwanegol i ehangu’r ddarpariaeth o gynnwys newyddion digidol.
Mae’r grant, sy’n cael ei weinyddu gan Gyngor Llyfrau Cymru ar ran Llywodraeth Cymru, ar gael i sicrhau bod amrywiaeth o wasanaethau newyddion digidol ar gael yn y Gymraeg.
Roedd £100,000 y flwyddyn am dair blynedd yn dal ar gael o fewn amodau’r grant, yn ogystal â £30,000 oedd yn weddill o 2022–23, ar ôl i wasanaeth newyddion Corgi Cymru ddod i ben ar ddiwedd 2022.
Cafodd yr arian ychwanegol ei ddyfarnu yn dilyn proses tendr agored dros y gaeaf.
“Mae’n braf gweld bod gwasanaeth newyddion golwg360 yn mynd o nerth i nerth, ac edrychwn ymlaen at weld yr arian ychwanegol hwn yn caniatáu iddo ddatblygu dulliau o gyrraedd cynulleidfaoedd newydd,” meddai Arwel Jones, Pennaeth Datblygu Cyhoeddi’r Cyngor Llyfrau.
‘Atgyfnerthu a datblygu’
“Rydyn ni wrth gwrs yn falch iawn o’r buddsoddiad ychwanegol tuag at golwg360, ac yn edrych ymlaen at ddatblygu nifer o brosiectau cyffrous dros y tair blynedd nesaf,” meddai Owain Schiavone, Prif Weithredwr Golwg Cyf.
“Mae’r buddsoddiad yma’n helpu i atgyfnerthu’r gwasanaeth presennol, sy’n gwneud gwaith arbennig o ystyried yr adnoddau, ond mae hefyd yn cynnig cyfle i ni nawr ategu’r gwasanaeth craidd trwy arbrofi a cheisio datblygu elfennau newydd.”
Bydd y datblygiadau newydd ar waith o Ebrill 1.