Roedd treftadaeth Bacistanaidd Prif Weinidog newydd yr Alban yn amlwg yn ei seremoni tyngu llw heddiw (dydd Mercher, Mawrth 29), wrth iddo olynu Nicola Sturgeon.

Humza Yousaf yw’r Mwslim cyntaf i arwain cenedl ddemocrataidd yng ngorllewin Ewrop, ac roedd yn gwisgo gwisg draddodiadol y shalwar kameez wrth iddo gael ei dderbyn yn swyddogol i’r swydd.

 

Enillodd e’r ras arweinyddol ddechrau’r wythnos yn dilyn ymddiswyddiad Nicola Sturgeon ar ôl bron i ddegawd wrth y llyw.

Yn gefnogwr brwd dros annibyniaeth i’r Alban, dywedodd yn y gorffennol y byddai’n awyddus i ddileu’r frenhiniaeth pe bai’r wlad yn mynd yn annibynnol.

Fe fu’r ras arweinyddol yn un tanllyd yn sgil ffrae tros y ffordd ymlaen yn y frwydr tros annibyniaeth wrth i Kate Forbes, ymgeisydd arall am yr arweinyddiaeth, adael y llywodraeth.

Cafodd hi gynnig rôl gweinidog materion gwledig a’r ynysoedd ar ôl bod yn weinidog cyllid o dan Nicola Sturgeon, yn ôl adroddiadau.

Cafodd hi gefnogaeth Alex Neil, y cyn-weinidog iechyd, sy’n dweud bod y cynnig gafodd hi’n “sarhad nad oedd yn ymdrech go iawn i uno” plaid yr SNP.

Fe wnaeth Humza Yousaf drechu Kate Forbes, siaradwr Gaeleg rhugl, o ryw 2,000 o bleidleisiau yn unig.

Yn ystod ei ymgyrch, dywedodd y Prif Weinidog newydd y byddai’n cefnu ar ddull “cylch mewnol” ei ragflaenydd o reoli, gan ffafrio dull “pabell fawr” sy’n croesawu pawb.

Cafodd ei feirniadu gan Kate Forbes yn ystod y ras arweinyddol yn sgil ei record yn y llywodraeth, ond mynnodd ei bod hi’n ei “gefnogi’n llawn”.

Cabinet newydd

Mae Humza Yousaf bellach wedi cyhoeddi ei Gabinet newydd, gyda phum aelod o dan 40 oed a’r rhan fwyaf yn fenywod.

Mae rôl benodol wedi’i chreu o’r newydd i ofalu am yr Economi.

Bydd Shona Robison, y Dirprwy Brif Weinidog newydd, yn gyfrifol am Gyllid, sy’n cynnwys Cyllideb yr Alban.

Michael Matheson sydd wedi’i benodi i ofalu am Adferiad y Gwasanaeth Iechyd, Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

Yr Ysgrifennydd Addysg a Sgiliau newydd yw Jenny Gilruth, tra bod wyneb newydd arall, Màiri McAllan, yn ymuno fel Ysgrifennydd Sero Net a Thrawsnewidiad Cyfiawn.

Un arall sy’n ymuno â’r Cabinet am y tro cyntaf yw Neil Gray, ac fe fydd yntau’n gyfrifol am yr Economi Les, Gwaith Teg ac Ynni.

Mae Mairi Gougeon yn parhau’n Ysgrifennydd Materion Gwledig, Diwygio’r Tir ac Ynysoedd, ac Angus Robertson yn aros yn ei swydd bresennol yn gyfrifol am y Cyfansoddiad, Materion Allanol a’r Diwylliant.

Shirley-Anne Somerville sydd bellach yn gyfrifol am Gyfiawnder Cymdeithasol, tra bod Angela Constance yn dychwelyd i’r Cabinet i ofalu am Gyfiawnder a Materion Cartref.

Bydd yn rhaid i Senedd yr Alban gymeradwyo’r penodiadau newydd.