Bydd gwasanaeth newyddion digidol Corgi Cymru yn dod i ben ddiwedd Hydref.

Mae Cyngor Llyfrau Cymru a Newsquest wedi cytuno i roi terfyn ar ariannu a darparu’r gwasanaeth newyddion Cymraeg.

Daeth y ddwy ochr i gytundeb ar y cyd i gynnig cau sianeli digidol Corgi Cymru ddiwedd mis Hydref, a chaniatáu i’r gwasanaeth gael ei ddirwyn i ben dros y mis canlynol.

Mae un swydd lawn amser ac un swydd ran amser bellach mewn perygl, a bydd ymgynghoriad yn cael ei gynnal gyda staff sy’n cael eu heffeithio yn Newsquest, gan ddechrau heddiw (Hydref 19).

Cafodd y wefan ei lansio fis Ebrill eleni, ac roedd disgwyl i Corgi Cymru dderbyn grant o £100,000 y flwyddyn dros gyfnod o bedair blynedd, wedi’i weinyddu gan Gyngor Llyfrau Cymru

Mae gwefan golwg360 hefyd yn derbyn £100,000 yn hytrach na’r £200,000 blynyddol roedd yn ei dderbyn cyn dechrau’r flwyddyn ariannol bresennol a chyn dyfarnu’r grant i Corgi Cymru.

‘Y peth gorau i’r ddwy ochr’

Dywedodd Helgard Krause, Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru, bod Cyngor Llyfrau Cymru a Newsquest wedi cytuno mai’r peth gorau i’r ddwy ochr yw terfynu’r cytundeb cyllido a chau’r gwasanaeth newyddion digidol Cymraeg Corgi Cymru ddiwedd Hydref, “ar ôl dwys ystyried a thrafod gofalus”.

“Rydym wedi bod mewn cyswllt rheolaidd gyda Newsquest dros yr wythnosau diwethaf ac mae’n ddrwg iawn gennym weld Corgi Cymru yn cau, ond rydym yn deall bod yr amgylchiadau wedi newid ers dyfarnu’r grant, oherwydd yr amgylchedd presennol heriol sydd ohoni,” meddai Helgard Krause.

“Mae ein meddyliau gyda’r staff sydd wedi’u heffeithio gan y penderfyniad hwn.”

‘Ddim yn gynaliadwy’

Wrth ddiolch i’r Cyngor Llyfrau am eu cefnogaeth, wnaeth ganiatáu lansiad Corgi Cymru yn gynharach eleni, dywedodd Gavin Thompson, Golygydd Rhanbarthol Newsquest: “Yn anffodus, daeth yn glir, hyd yn oed gyda chefnogaeth y Cyngor Llyfrau ac o ystyried yr amgylchedd economaidd heriol, na fyddai adeiladu menter Gymraeg newydd ar hyn o bryd yn gynaliadwy yn economaidd.

“Rydym wedi bod mewn trafodaethau adeiladol ynglŷn â dyfodol y gwasanaeth dros yr wythnosau diwethaf, yn dilyn cau The National Wales.

“Byddwn yn dechrau proses ymgynghori gyda staff yr effeithir arnynt, gan ddechrau heddiw.”

Bydd Cyngor Llyfrau Cymru yn cyhoeddi’r broses ar gyfer ail-dendro am weddill cyllid y grant Gwasanaeth Newyddion Digidol Cymraeg o 2023 ymlaen dros yr wythnosau nesaf.

NUJ yn galw am sicrwydd y bydd yn rhaid i Newsquest dalu £100,000 yn ôl os ydyn nhw’n cau Corgi Cymru

“Mae’r Cyngor Llyfrau yn parhau i gefnogi Corgi Cymru yn unol â’n cytundeb, ac rydym mewn cysylltiad cyson â Newsquest”