Mae Undeb Cenedlaethol y Newyddiadurwyr (NUJ) wedi gofyn am sicrwydd gan Lywodraeth Cymru y bydd yn rhaid i gwmni Newsquest dalu £100,000 o gyllid cyhoeddus yn ôl os ydyn nhw’n cau safle newyddion Corgi Cymru.

Fe gaeodd gwasanaeth newyddion cenedlaethol Saesneg Newsquest The National ddoe (dydd Mercher, Awst 30), ond mae Corgi Cymru, a gafodd ei lansio ym mis Ebrill, yn dal i fod ar waith.

O fis Ebrill eleni, bydd Corgi Cymru yn derbyn grant o £100,000 y flwyddyn dros gyfnod o bedair blynedd sydd wedi’i weinyddu gan Gyngor Llyfrau Cymru, sydd wedi dweud nad yw cau The National yn effeithio ar y grant.

Mae gwefan golwg360 hefyd yn derbyn £100,000 yn hytrach na’r £200,000 blynyddol roedd yn ei dderbyn cyn dechrau’r flwyddyn ariannol bresennol a chyn dyfarnu’r grant i Corgi Cymru. Cyfrannodd hyn at golli sawl swydd o fewn cwmni Golwg.

“Byddwn yn gofyn am sicrwydd gan Weinidog y Cyfryngau Dawn Bowden, pe bai Newsquest gau Corgi eu bod yn gorfod talu’r arian cyhoeddus yn ôl,” meddai’r NUJ.

‘Galw ar Newsquest i wneud y peth iawn i’w staff’

“Mae cau The National ddoe yn lleihau ymhellach tirwedd sydd eisoes yn brin yn y cyfryngau yng Nghymru,” meddai David Nicholson, cynrychiolydd cyngor gweithredol cenedlaethol Cymru’r NUJ.

“Mae’r NUJ yn galw ar Newsquest i wneud y peth iawn i’w staff ffyddlon a thalu tâl diswyddo er gwaethaf, mae’n debyg, nad yw’n gorfod bod yn gyfreithiol dan gyfraith cyflogaeth y Deyrnas Unedig.

“[Mae’r ffaith] fod Newsquest wedi dewis cau’r wefan ar y diwrnod yr aeth newyddiadurwyr Reach ar streic yn arwydd na fydd newyddiadurwyr bellach yn dygymod â’r sefydliadau hyn sy’n talu symiau enfawr i’w cyfarwyddwyr a’u cyfranddalwyr tra’n disgwyl i’w staff ariannu gweithrediadau’r cyfryngau.”

Y Cyngor Llyfrau’n “cefnogi Corgi Cymru” ac “mewn cysylltiad cyson â Newsquest”

“Nid yw cau The National yn effeithio’n awtomatig ar y grant a ddyfarnwyd i Newsquest i ddarparu gwasanaeth newyddion digidol Cymraeg Corgi Cymru, gan fod y cyllid wedi’i glustnodi ar gyfer y gwasanaeth hwnnw,” meddai llefarydd ar ran y Cyngor Llyfrau.

“Mae’r Cyngor Llyfrau yn parhau i gefnogi Corgi Cymru yn unol â’n cytundeb, ac rydym mewn cysylltiad cyson â Newsquest.

“Byddwn yn monitro sut y darperir gwasanaeth newyddion Corgi Cymru yn sgil y newidiadau diweddar.

“Rydym yn cytuno â’r NUJ bod y materion sy’n wynebu newyddion Cymru yn heriol, ac un o brif nodau’r grant hwn yw cyfrannu at blwraliaeth yn y cyfryngau yng Nghymru, ac ym maes newyddion Cymraeg yn benodol.”

“Dim dewis ond mynd ar streic” i newyddiadurwyr Reach

Huw Bebb

“Mae gennym ni deuluoedd, biliau i’w talu a dyna beth sy’n bwysig yn y fan yma, a dyna mae’n rhaid iddyn nhw gydnabod”

Gwefan newyddion The National yn cau heddiw

Mae’r wefan wedi dod yn anghynaladwy, yn ôl y rheolwr gyfarwyddwr Gavin Thompson