Mae gwasanaeth newyddion The National yn dod i ben heddiw (dydd Mercher, Awst 31), 18 mis ar ôl ei lansio.
Cafodd dau aelod o’u staff rybudd yn ddiweddar ynghylch y sefyllfa. Gan nad ydyn nhw wedi’u cyflogi am o leiaf ddwy flynedd, does ganddyn nhw ddim hawl cyfreithiol i daliadau diswyddo.
Cystadleuaeth gan wefannau eraill sydd wedi cael ei feio am y sefyllfa, am nad oes digon o bobol wedi tanysgrifio i’r wefan.
Mae’r wefan yn eiddo i Newsquest, un o’r grwpiau newyddion mwyaf yn y Deyrnas Unedig, sydd yn ei dro yn is-gwmni i’r cawr cyfryngau Americanaidd Gannett.
Cafodd The National ei lansio ar Ddydd Gŵyl Dewi yn 2021.
Cafodd rhifyn papur newydd wythnosol ei gyhoeddi tan fis Tachwedd 2021 pan aeth y rhifyn print olaf ar werth.
Ar y pryd dywedodd Gavin Thompson, rheolwr gyfarwyddwr The National, mai “prif amcan y papur newydd oedd codi ymwybyddiaeth o’r gwasanaeth newyddion digidol newydd i Gymru fel dewis amgen i frandiau newyddion cenedlaethol y Deyrnas Unedig sy’n cael eu cyhoeddi o Loegr”.
Golygyddol
Mae Gavin Thompson wedi cyhoeddi erthygl olygyddol heddiw yn cadarnhau’r newyddion am dranc The National.
“Dw i’n ysgrifennu heddiw i rannu’r newyddion trist fod The National Wales yn cau,” meddai.
“Rydym mor ddiolchgar am eich cefnogaeth ers i’r teitl lansio 18 mis yn ôl.
“Rydym wedi cyflawni cymaint. Mae ein newyddiaduraeth wedi helpu i ddwyn ein llywodraethau i gyfrif, rydym wedi rhoi sylw i faterion roedd cyn lleied o ots gan eraill amdanyn nhw ac wedi adrodd straeon na fyddai neb arall.
“Dw i’n falch dros ben o’r holl newyddiadurwyr a chyfranwyr i’r teitl dros y cyfnod hwnnw a dw i eisiau dweud diolch am ein helpu ni i adrodd y straeon hynny.
“Mae Cymru’n haeddu cyfryngau cenedlaethol cryf a byddwn yn parhau i chwarae rhan yn hynny drwy ein safle Cymraeg Corgi.Cymru.”
Ymhlith teitlau eraill cwmni Newsquest mae’r Western Telegraph, y Wrexham Leader a’r South Wales Argus ond yn ôl Gavin Thompson, mae The National wedi cael llai o danysgrifwyr na’r disgwyl.
“Cafodd The National ei chreu yn bennaf fel safle tanysgrifiadau,” meddai.
“Byddai peidio â bod yn llwyr ddibynnol ar gynulleidfaoedd mawr sydd eu hangen ar gyfer hysbysebu yn rhoi gofod i ni adrodd straeon pwysig sydd weithiau’n gymhleth.
“Yn hynny o beth, gallem gerfio gofod penodol yn y farchnad. Rydyn ni’n sicr wedi gwneud hynny.”
“Yn drist iawn, eleni rydyn ni wedi gweld tanysgrifiadau’n gostwng. Mae’n anodd i bawb ar hyn o bryd ac rydym yn deall hynny. Ond mae’n golygu bod y safle wedi dod yn anghynaladwy.
“Bydd tanysgrifwyr yn cael ad-daliad ar gyfer unrhyw beth sydd arnom iddyn nhw ar ôl heddiw.”
“Fel chi, dw i’n drist fod The National yn dod i ben. Ond dw i’n falch o bopeth rydyn ni wedi’i wneud, a’n bod ni wedi gwneud ein gorau.”