Wrth i’r nawfed gwefan fro sy’n rhan o rwydwaith Golwg fynd yn fyw, daeth newyddion da y bydd cyfle i ragor o ardaloedd gael eu gwefannau straeon lleol eu hunain.

Mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol newydd gyhoeddi cyllid gwerth £100,000 dros gyfnod o flwyddyn i gwmni Golwg Cyf ei fuddsoddi i ysgogi mwy o gymunedau i sefydlu eu gwasanaethau straeon lleol eu hunain.

Bydd y gwefannau bro newydd yn ymuno ag wyth gwefan fro a gafodd eu sefydlu yn Arfon a gogledd Ceredigion yn rhan o brosiect peilot Bro360, a gafodd ei ariannu fel rhan o’r cynllun Rhaglen Datblygu Gwledig.

Ar flaen y gad gyda’r don newydd mae cymuned Dyffryn Aeron ac Aberaeron.

Aeth Aeron360 yn fyw mewn noson hwyliog yn Nhafarn y Vale, Felinfach nos Iau, Awst 18.

Cymunedau de Ceredigion (ardaloedd Aberteifi, Llandysul a Bro Sion Cwilt) fydd nesaf i ymuno â’r rhwydwaith, a bydd Golwg yn penodi Cydlynydd ac Ysgogydd lleol i sbarduno diddordeb a chefnogi datblygiad gwefannau bro yn yr ardaloedd hynny.

Bydd Gohebydd lleol hefyd yn cael ei benodi i gyfrannu straeon lleol ar gyfer golwg360 a’r rhwydwaith gyfan.

Yn rhan o’r cynlluniau bydd sesiynau hyfforddiant yn cael eu cynnal, gyda ffocws ar raeadru sgiliau gohebu i bobol ar lawr gwlad.

Ac wedi i ddegau o ardaloedd ledled Cymru ddangos diddordeb mewn ymuno â’r gwefannau bro yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron, daw cyfle i gymunedau newydd ddechrau’r daith tuag at ymuno â’r rhwydwaith.

Cyllid i barhau â’r prosiect am flwyddyn yw hwn, ac mae cwmni Golwg wrthi’n chwilio am gyllid craidd hirdymor i allu gwneud datblygiadau gwirioneddol ym maes newyddion lleol.

Gwybodaeth gefndirol

Caiff y prosiect hwn ei ariannu gan gyllid Pawb a’i Le, Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol

Mae datblygiad y rhwydwaith gwefannau bro yn adeiladu ar waith prosiect peilot Bro360 gan gwmni Golwg.

Mae’n rhwydwaith o wefannau cymunedol sy’n gartref i straeon lleol, wedi eu creu gan bobol leol.

Mae’n fwy na newyddion, ac mae’n fwy na phapur bro ar-lein – mae’n ddigwyddiadau, blogiau byw, fideos, sgyrsiau – amrywiaeth o gynnwys i apelio a gwneud gwahaniaeth i’r gymdogaeth.

Y naw gwefan fro sy’n rhan o rwydwaith Golwg yw Aeron360, BroAber360, Caron360, Clonc360, BangorFelin360, BroWyddfa360, Caernarfon360, DyffrynNantlle360 ac Ogwen360 a gallwch eu gweld ar bro360.cymru

I weld yr hysebysebion, ewch i Swyddi360 – Hysbysebion swyddi, cyfleoedd newydd a newyddion am benodiadau.