Mae cynghorydd cymuned yn y Mwmbwls ger Abertawe sydd yng nghanol ffrae iaith yn dweud ei fod e’n grac ynghylch cael ei symud o un o’i rolau, a bod nifer o’i gydweithwyr yn y Blaid Lafur wedi ei siomi.
Mae’r Cynghorydd Rob Marshall bellach wedi cwyno i’r cyngor cymuned, gan alw ar y cadeirydd i ymddiswyddo.
Mae e hefyd yn dweud ei fod e’n poeni am effaith y ffrae iaith ar ei yrfa fel cerddor ac athro cerdd.
“Mae’n sicr yn cael effaith arni,” meddai.
Dywed y cyngor cymuned eu bod nhw wedi derbyn cŵyn gan gynghorydd, ac nad yw’n briodol gwneud sylw pellach ar hyn o bryd.
Cefndir
Ar Awst 16, fe wnaeth cynghorwyr bleidleisio o blaid symud y Cynghorydd Rob Marshall o’i rôl yn gadeirydd ar y pwyllgor diwylliant, twristiaeth a chyfathrebu, gan ddweud y dylai ymddiheuro’n ysgrifenedig wrth Ysgol Gynradd Gymraeg Llwynderw.
Roedd yr ysgol wedi cwyno wrth y Cyngor ar sail cael eu cau allan o ran yr iaith Gymraeg a’r diwylliant, ar ôl cael gwybod gan y Cynghorydd na fyddai modd i gôr plant ganu yn Gymraeg mewn digwyddiad o’r enw Mumbles Fest 2022.
Ar ôl trefnu’r ŵyl ac wedi cysylltu ag ysgolion cynradd lleol bum wythnos ymlaen llaw i ddweud bod côr plant am gael ei sefydlu, dywedodd y cynghorydd wrth yr ysgol y byddai’n anodd i’r plant o ysgolion eraill pe bai’r Gymraeg yn cael ei chynnwys, a bod amserlen dynn ar gyfer yr ŵyl yn golygu nad oedd modd cynnwys caneuon ychwanegol.
Daeth cyfres o e-byst rhwng y cynghorydd a’r ysgol, oedd yn awgrymu y gellid canu pennill neu gytgan yn Gymraeg, i ben gyda’r cynghorydd Llafur yn dweud mai’r nod oedd uno’r ysgolion yn hytrach na gwneud i un ysgol sefyll allan.
Ychwanegodd fod pobol yn y Mwmbwls yn “ddi-fater ynghylch yr iaith Gymraeg”, ac fe ddywedodd ei fod e’n Gymro balch ac o blaid hyrwyddo’r iaith.
Roedd cŵyn yr ysgol, oedd wedi gwrthod cymryd rhan yn Mumbles Fest, yn ganlyniad i ohebiaeth ac ymddygiad y Cynghorydd Rob Marshall, llywodraethiant mewnol a mecanweithiau craffu’r cyngor cymuned, yn ogystal â geiriau anaddas un o dair cân.
‘Bwch dihangol’
Ers y cyfarfod, mae’r Cynghorydd Rob Marshall yn honni ei fod e’n “fwch dihangol” ac nad oedd y cyngor cymuned wedi dilyn y gweithdrefnau cywir wrth ymdrin â’r gŵyn, a hefyd yn y cyfarfod ar Awst 16 pan gafodd e gynnig pum munud i siarad.
Mae e hefyd wedi gwneud honiadau ynghylch cyfarfod rhithiol mae’n honni iddo gael ei gynnal rhwng rhai cynghorwyr ond nid gyda fe ar Awst 16, sef y diwrnod cyn y cyfarfod cyhoeddus.
Roedd e’n teimlo y dylai fod wedi cael dychwelyd i’w rôl yn gyd-gadeirydd y pwyllgor diwylliant, twristiaeth a chyfathrebu.
Dywedodd wrth y Gwasanaeth Gohebu ar Ddemocratiaeth Leol ei fod e’n ystyried cwyno wrth gyrff allanol, gan ychwanegu ei fod e wedi cael mwy o gefnogaeth gan gynghorwyr Ceidwadol ers dechrau’r ffrae na chynghorwyr Llafur.
“Wrth gwrs fy mod i,” meddai pan gafodd ei holi a yw e wedi ystyried gadael ei rôl yn gynghorydd – rôl y bu ynddi ers 2017.
“Fe wnes i feddwl, a yw hi’n werth yr holl straen feddyliol?
“Ond dw i ddim am adael i bobol eraill gael y grym yna drosof fi.”
Effaith ar ei yrfa
Mae’r Cynghorydd Rob Marshall yn dysgu cerddoriaeth mewn ysgol uwchradd ac ysgol gynradd Gymraeg yn Abertawe, ac mae’n dweud iddo ddysgu disgyblion “hyfryd” yno, ond mae’n dweud ei fod “yn poeni a fydd swydd i fi fynd yn ôl iddi”.
Mae’n dweud ei fod e hefyd yn poeni am effaith y ffrae ar ei waith cerddorol y tu allan i’r byd dysgu.
Dywed ei fod e wedi cystadlu yn yr Eisteddfod ar hyd ei oes, wedi perfformio ar raglenni S4C fel Heno, ac wedi llwyfannu cyfansoddiadau Syr Karl Jenkins, y cyfansoddwr o Benrhyn Gŵyr.
Wrth gyfeirio at yr e-byst rhyngddo fe ac Ysgol Gynradd Gymraeg Llwynderw, a gafodd eu cynnwys ar agenda’r cyfarfod ar Awst 16, dywedodd ei fod e “wedi dewis geiriau gwael ar hast”.
“Yr hyn roeddwn i’n ceisio’i ddweud, fwy na thebyg, oedd fod y Mwmbwls yn gymuned fwy Saesneg ei hiaith,” meddai.
“Dw i wedi ypsetio’n fawr fod yr ysgol wedi’i hypsetio ynghylch hyn. Nid dyna fy mwriad. Dw i ddim yn faleisus.”
Dywed nad oedd e wedi trosglwyddo’r e-byst gan yr ysgol i’w gydweithwyr ar y pwyllgor o ganlyniad i bwysau amser wrth drefnu’r ŵyl.
“Ro’n i dan yr argraff fod yn rhaid i fi fwrw iddi,” meddai’r dyn 51 oed.
Pleidlais ac argymhellion
Pleidleisiodd naw cynghorydd o blaid ei symud o’i rôl yn gyd-gadeirydd y pwyllgor, un yn erbyn, ac fe wnaeth dau arall atal eu pleidlais.
Pleidleisiodd cynghorwyr hefyd o blaid argymhellion eraill, gan gynnwys sefydlu gweithgor i adolygu darpariaeth iaith Gymraeg y cyngor cymuned, ac i sicrhau eu bod nhw’n ateb eu gofynion deddfwriaethol.
Wrth ymateb i’r achwynydd a honiadau’r Cynghorydd Rob Marshall, dywedodd y cyngor cymuned eu bod nhw’n ymdrin â’r gŵyn trwy eu “protocol datrysiad lleol”, yn unol ag Un Llais Cymru – prif sefydliad cynghorau tref a chymuned.
“Dydy hi ddim yn briodol, felly, i ni wneud sylw hyd nes bod y broses honno wedi dod i ben.”