Bydd cynlluniau ar gyfer ysgol gynradd Gymraeg newydd gyda lle i 210 o ddisgyblion yn Nhredegar yn cael eu penderfynu gan gynghorwyr ym Mlaenau Gwent yr wythnos nesaf.
Bydd y cynlluniau ar gyfer ysgol gynradd â chyfleusterau meithrin a gofal plant ar dir ar Ffordd y Siartwyr yn cael eu trafod yng nghyfarfod pwyllgor cynllunio Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent ddydd Iau, Medi 8.
Bydd yr ysgol, ar gost ragdybiedig o £6.2m, yn cynnwys cyfleuster man gollwng, parcio i staff, lle i droi bysus ac ardaloedd gemau amlddefnydd, a bydd y maes chwarae presennol yn cael ei ail-leoli.
Mae’r safle tir brown wedi cael ei ddefnyddio fel porfa i anifeiliaid ac mae yno faes chwarae bach.
Mae’r swyddog cynllunio Joanne White wedi egluro’r cynnig yn ei hadroddiad.
“Wrth ystyried lleoliad addas ar gyfer ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg, cafodd proses asesu safle ei chwblhau, gan archwilio nifer o safleoedd yn Nhredegar,” meddai.
“Ystyriwyd mai safle’r cais oedd yr un mwyaf addas ar sail ei leoliad i wasanaethu Tredegar a Glyn Ebwy.”
Eglura fod un llythyr o wrthwynebiad wedi’i dderbyn o ran y cais, oedd yn codi materion yn ymwneud â thagfeydd a llygredd o ganlyniad i fwy o gerbydau yn yr ardal, ac y byddai gofod agored yn cael ei golli.
Ychwanega fod cyn-gynghorydd y ward wedi gofyn i’r cais gael ei roi gerbron y pwyllgor i’w benderfynu.
Eglurodd Joanne White fod rhaid i’r penderfyniad gael ei wneud gan y pwyllgor cynllunio beth bynnag, gan fod y cais yn cael ei ystyried yn ddatblygiad “mawr” yn y sir.
“Bydd yr ysgol gynradd Gymraeg arfaethedig gyda chyfleuster gofal plant yn darparu adeilad carbon isel cyfoes fel rhan o’r Rhaglen Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif i wasanaethu cymunedau Tredegar a Glyn Ebwy,” meddai.
“Ni fyddai’r cynnig yn cael effaith annerbyniol ar gymeriad ac ymddangosiad yr ardal gyfagos, nac yn cael effaith andwyol ar gyfleusterau cyfagos na’r rhwydwaith o briffyrdd.
“Wedi pwyso a mesur, ystyrir bod y cynnig datblygu yn dderbyniol ac y dylid rhoi caniatâd cynllunio.”
Amodau
Mae nifer o amodau ynghlwm wrth y caniatâd, ac un ohonyn nhw yw y bydd angen cymeradwyo cais draenio cynaladwy cyn y gall y gwaith adeiladu ddechrau.
Pe bai cynghorwyr yn cytuno ag argymhelliad Joanne White, y gobaith yw y bydd adeilad yr ysgol yn agor ym mis Ebrill 2024.
Mae’r ysgol wedi’i disgrifio fel ysgol a fyddai’n dechrau gyda phlant blynyddoedd cynnar a dosbarth derbyn, gan ehangu’n flynyddol drwy’r blynyddoedd ysgol.
Bydd hi’n cymryd chwe blynedd i’w llenwi â disgyblion tair i 11 oed.
Bydd adeiladu’r ysgol newydd yn Nhredegar yn dyblu nifer y disgyblion mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg ym Mlaenau Gwent, ac Ysgol Gymraeg Bro Helyg yn Nant-y-glo yw’r unig un ar hyn o bryd.