Mae Cyngor Gwynedd wedi prynu’r darn cyntaf o dir dan eu Cynllun Gweithredu Tai.

Bydd y tir datblygu ym Morfa Nefyn ym Mhen Llŷn yn cael ei ddefnyddio i godi tai canolradd, fforddiadwy.

Mae prynu tiroedd adeiladu yn rhan o Gynllun Gweithredu Tai y Cyngor, a’r bwriad ydy sicrhau bod y naw tŷ newydd yn fforddiadwy, hyblyg, cynaliadwy, ynni-effeithiol ac yn gwella llesiant y trigolion fydd yn byw yno.

Mae Morfa Nefyn yn ardal lle mae galw mawr am dai i bobol leol, a byddan nhw ar gael i’w rhentu ar rent canolradd neu i’w prynu drwy gynllun rhannu ecwiti.

Bydd hynny’n rhoi rhagor o gyfle i bobol nad ydyn nhw’n gymwys ar gyfer tai cymdeithasol, ond sydd hefyd yn ei chael hi’n anodd prynu neu rentu yn y farchnad agored, i fyw yno, meddai Cyngor Gwynedd.

‘Newid y sefyllfa dai’

Yn ôl Craig ab Iago, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros Dai ac Eiddo, maen nhw’n rhagweld y bydd 40 o bobol yn elwa ar y datblygiad, yn unol â chael caniatâd cynllunio.

“Rydw i’n eithriadol o falch fy mod yn gallu rhannu’r newyddion cyffrous ein bod wedi prynu ein tir cyntaf dan y Cynllun Gweithredu Tai,” meddai.

“Mae’r cyfleoedd a ddaw i drigolion yr ardal, diolch i waith caled yr Adran Tai ac Eiddo, yn mynd i newid sefyllfa dai unigolion a theuluoedd er gwell yn ardal Morfa Nefyn.

“Mae prynu tir datblygu ar gyfer adeiladu tai yn un prosiect allweddol yn ein Cynllun Gweithredu Tai ac rydw i’n edrych ymlaen yn arw at ddod yn ôl i safle Maes Twnti i weld ein datblygiad yn dod yn fyw gyda chartrefi fforddiadwy i bobol Gwynedd.”

‘Ar ben fy nigon’

Dywed y Cynghorydd Gareth Tudor Jones, cynrychiolydd ward Morfa Nefyn a Thudweiliog ar Gyngor Gwynedd, ei fod ar ben ei ddigon.

“Dw i’n llongyfarch yr Aelod Cabinet Tai ac Eiddo, ac Adran Tai ac Eiddo Cyngor Gwynedd am eu gweledigaeth, a hefyd wrth reswm am ddewis Morfa Nefyn lle mae gwir angen,” meddai.

“Mae yna gymaint o bobol ifanc a theuluoedd ifanc yn gorfod symud o’r ardal i lefydd eraill i fyw, ond yn dymuno aros yn eu cynefin ac eisiau’r hawl i fyw adref.

“Rŵan, mae yna gyfle iddyn nhw gael tŷ am bris rhesymol yn eu pentref genedigol, a sicrhau bod Morfa Nefyn yn parhau yn gymuned hyfyw ac yn gymuned Gymraeg.”

‘Colli gwead cymdeithasol’

“Mae hi mor gyffrous gweld bod y Cyngor wedi cymryd y blaengaredd i gaffael y darn yma o dir yn un o’r cymunedau hynny y gwyddom, ar ôl Abersoch, y gall fod yn un o’r rhai nesa’ sydd o dan fygythiad o golli’r gwead cymdeithasol – y bobol o bob oedran, y bobol sy’n mynd i’r siop, y rhieni, y plant, y bobol sy’n cadw’r injan dân i fynd, y bobol sy’n cadw’r bad achub i fynd,” meddai Liz Saville Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan ac Aelod Seneddol Dwyfor Meirionnydd.

“Mae’n anodd i mi ddweud pa mor falch mae hyn yn fy ngwneud i.

“Mae yma ddyfodol llewyrchus iawn a dw i’n ddiolchgar tu hwnt i Gyngor Gwynedd am hynny.”

Y cam nesaf fydd cynnal arolwg o’r angen yn lleol gan Hwylusydd Tai Gwledig, ac mae Cyngor Gwynedd yn disgwyl i’r broses honno ddechrau yn yr wythnosau nesaf.

Mae Cyngor Gwynedd yn dal i chwilio am ragor o dir ac eiddo i’w brynu ar gyfer datblygiadau o’r fath, a dylai unrhyw un sydd â diddordeb gwerthu tir iddyn nhw gysylltu drwy e-bostio datblygutai@gwynedd.llyw.cymru neu ffonio 01766 771000.