Bydd Mikhail Gorbachev yn cael ei gofio fel dyn wnaeth “hollti barn”, yn ôl Uwch Ddarlithydd mewn Gwleidyddiaeth Ryngwladol ym Mhrifysgol Aberystwyth ac arbenigwr ar Rwsia.
Bu farw’r cyn-arweinydd Sofietaidd – a ddaeth â’r Rhyfel Oer i ben yn heddychlon – yn 91 oed yn dilyn salwch.
Daeth Mikhail Gorbachev i rym yn 1985 a chyflwyno diwygiadau, yn ogystal ag agor yr Undeb Sofietaidd i’r byd.
Ond ni allodd atal cwymp yr undeb, a bu llawer o Rwsiaid yn ei feio am y blynyddoedd o anrhefn a ddilynodd.
Y tu allan i Rwsia, mae’n ddyn uchel ei barch, gyda phrif swyddog y Cenhedloedd Unedig yn dweud wrth dalu teyrnged iddo ei fod wedi “newid cwrs hanes”.
Bydd yn cael ei gladdu ym mynwent Novodevichy Moscow, lle mae nifer o Rwsiaid amlwg eraill wedi cael eu claddu.
Fodd bynnag, dydi hi ddim yn glir a fydd yn cael angladd gwladol.
Anfonodd yr Arlywydd Vladimir Putin ei “gydymdeimlad dwysaf”, gan ddisgrifio sut roedd Mikhail Gorbachev wedi cael “effaith enfawr ar hanes”.
‘Ceisio gwneud i’r system Sofietaidd weithio’
Yn ôl Jenny Mathers, sydd wedi bod yn siarad â golwg360 yn dilyn marwolaeth Mikhail Gorbachev, mae ceisio “asesu ei gyfnod yn arweinydd yr Undeb Sofietaidd yn anodd oherwydd mae yna ffyrdd gwahanol o feddwl amdano”.
“Mae yna’r hyn wnaeth o geisio’i wneud wrth ddiwygio system wleidyddol ac economaidd yr Undeb Sofietaidd,” meddai.
“Mae yna’r hyn wnaeth o geisio’i wneud gyda pholisi tramor.
“Mae yna’r ffordd wnaeth i ddelio gyda’r gwahanol genhedloedd a thwf cenedlaetholdeb o fewn yr Undeb Sofietaidd.
“Yn y bôn, yr hyn wnaeth o oedd ceisio gwneud i’r system Sofietaidd weithio.
“O fewn yr Undeb Sofietaidd, ceisiodd greu math o sosialaeth oedd yn mynd i allu gwireddu ei addewidion yn nhermau gwneud bywydau pobol yn well, nid yn unig yn faterol ond yn ddeallusol ac yn wleidyddol.
“Un o’r problemau y gwnaeth o sylwi arni oedd bod y Blaid Gomiwnyddol yn chwarae rôl rhy flaenllaw ym mywydau pob dydd.
“Er enghraifft, yn yr economi roedd yn rhaid i bob un penderfyniad gael ei gynllunio a’i gymeradwyo gan y blaid.
“Doedd dim mympwy, roedd popeth yn cael ei redeg o’r top i lawr.
“Roedd hyn yn golygu bod popeth yn drwm, popeth yn ara’ deg, a doedd y system ddim yn gallu ymateb i anghenion pobol gyffredin.
“Roedd popeth yn y wlad yn cael ei lywodraethu ar sail amcanion y wladwriaeth a’r hyn roedd y wladwriaeth yn fodlon ei ddarparu.
“Doedd dim lle o gwbl i bobol gyffredin gael dweud eu dweud, i chwarae rôl, i ddangos unrhyw fentergarwch.
“I fyw bywyd yn y system Sofietaidd, roedd angen i ti gadw dy ben i lawr, ufuddhau i orchmynion a gwneud yr hyn oedd yn ofynnol ohonot ti.
“Roedd hi’n system oedd wedi malu mewn lot o ffyrdd.
“Yr hyn roedd Gorbachev eisiau ei wneud oedd adfywio’r system, felly roedd o’n awyddus i annog mentergarwch gan bobol gyffredin.
“Roedd o’n awyddus i’r cyfryngau gael mwy o ryddid.
“Roedd o hefyd eisiau ysgogi’r bobol gyffredin i gymryd rhan mewn gwleidyddiaeth oherwydd, erbyn yr 1980au, doedd gwleidyddiaeth yr Undeb Sofietaidd ddim wir yn golygu dim byd.
“Roeddet ti’n pleidleisio oherwydd bod disgwyl i ti wneud, roeddet ti’n ymuno â’r Blaid Gomiwnyddol oherwydd dy fod eisiau bywyd gwell.
“Doedd gwleidyddiaeth ddim yn rywbeth roedd pobol yn teimlo’n angerddol amdano, ac roedd Gorbachev yn awyddus i weld yr angerdd yna’n dychwelyd, dychwelyd i ddyddiau’r chwyldro bolchevik, os lici di.
“Dyna oedd ei amcanion, ond mae’n deg dweud bod popeth roedd o’n ceisio’i wneud wedi methu’n llwyr.
“Er enghraifft, fe aeth y cyfryngau allan o reolaeth yn eithaf cyflym ar ôl iddo roi mwy o ryddid iddyn nhw.
“Fe aeth gwleidyddiaeth allan o reolaeth ar ôl cyfnod, oherwydd roedd annog pobol i gymryd rhan hefyd yn golygu bod y Blaid Gomiwnyddol yn agored i feirniadaeth.”
‘Bodlon cymryd risg’
Wrth drafod polisi tramor Mikhail Gorbachev a’i rôl wrth leihau tensiynau gyda’r Gorllewin, dywed Dr Jenny Mathers ei fod yn wleidydd “hyblyg” oedd “yn fodlon cymryd risg”.
“Mae rôl Gorbachev ar bolisi tramor, ac yn benodol ar reoli arfau, yn eithriadol o bwysig,” meddai.
“Ynghynt, roedd arweinyddiaeth yr Undeb Sofietaidd wedi bod yn gyndyn iawn o gymryd unrhyw risg wrth drafod rheoli arfau.
“Does dim ond rhaid i ti ddarllen hunangofiannau pobol oedd yn negodi ar ran yr Americanwyr yn y 60au a’r 70au i weld ac i sylweddoli o dan reolau mor llym roedd y negodwyr Sofietaidd [yn gweithredu].
“Roedd yn rhaid iddyn nhw fynd yn ôl at Moscow ar bob un pwynt bychan, doedd ganddyn nhw ddim rhyddid o fath yn y byd.
“Ond roedd Gorbachev yn fodlon symud oddi wrth hynny, roedd o’n credu bod yr amcan yn bwysicach na sut roedd yn cael ei gyflawni.
“Roedd o’n chwa o awyr iach, roedd o’n hyblyg dros ben.
“Pe bai’r Americanwyr yn anhapus neu’n ansicr o rywbeth, fe fyddai’n fodlon cynnig a thrafod syniadau gwahanol.
“Roedd o’n fodlon cymryd risg ac yn fodlon gwneud pethau ar y cyd oherwydd roedd o’n deall pwysigrwydd yr amcan, sef lleihau’r nifer o arfau niwclear, dod â’r ras arfau i ben, a chreu sylfaen newydd ar gyfer y berthynas rhwng yr Undeb Sofietaidd a’r Gorllewin.”
‘Hollti barn’
Sut y mae Dr Jenny Mathers yn credu y bydd Mikhail Gorbachev yn cael ei gofio, felly?
“Mae’r farn amdano a sut y bydd yn cael ei gofio wedi hollti,” meddai.
“Yn y Gorllewin, mae’n cael ei frolio a bydd yn cael ei gofio fel dyn o flaen ei amser, gwladweinydd a pherson creadigol ac mae’r holl bethau yna yn wir.
“Fodd bynnag, yn Rwsia a rhannau eraill o’r Undeb Sofietaidd, fe fydd o’n cael ei gofio’n wahanol iawn.
“Heb os, roedd o’n ddall i genedlaetholdeb a dyheadau cenedlaetholgar ac roedd o’n gyfrifol am fesurau hallt iawn yn erbyn protestiadau cenedlaetholgar mewn gwledydd megis Lithwania a Georgia lle cafodd pobol eu llofruddio oherwydd eu bod nhw’n dyheu am annibyniaeth, i fod yn wledydd eu hunain.
“Doedd ganddo ddim dealltwriaeth o genedlaetholdeb fel ffactor ysgogol, nac ideoleg neu unrhyw beth felly ac roedd o’n ei wrthwynebu’n llwyr.
“Felly bydd o’n sicr yn cael ei gofio’n hallt iawn yn y gwledydd hynny gafodd eu gormesu o dan ei oruchwyliaeth.
“Bydd o hefyd yn cael ei gofio’n hallt iawn gan nifer o Rwsiaid sy’n ei weld o fel dyn wnaeth ddechrau cyfnod o anhrefn llwyr yn yr 1990au.
“Mae hwn yn cael ei gofio fel cyfnod o anhrefn economaidd, ansicrwydd personol yn ogystal â chyfnod o golli hunaniaeth genedlaethol.
“Roedd pobol yn pendroni: ‘Dydan ni ddim yn yr Undeb Sofietaidd ddim mwy, dydan ni ddim yn bŵer byd eang ddim mwy, beth ydan ni?’
“Mae’n amlwg bod Vladimir Putin wedi cael ei arswydo gan y cyfnod hwn.
“Felly mae Gorbachev yn rhywun sydd wedi cael ei feirniadu’n hallt am agor bocs Pandora, fel petai, ond hefyd yn rhywun sydd wedi ennyn llawer iawn o barch yn rhyngwladol.”