Dylid ailfuddsoddi unrhyw elw sy’n cael ei greu drwy ddŵr Cymru yng nghymunedau’r wlad, yn ôl YesCymru.
Cafodd protestiadau eu cynnal yn Nhryweryn a Llyn Efyrnwy, Llanwddyn dros ŵyl y banc er mwyn gwrthwynebu’r ffordd mae corfforaethau dŵr o Loegr yn manteisio ar adnoddau naturiol Cymru.
Mae YesCymru wedi lansio deiseb yn galw am roi’r rheolaeth dros adnoddau naturiol Cymru i’r Senedd hefyd, ac erbyn hyn mae dros 7,000 o bobol wedi’i llofnodi.
Cafodd y ddeiseb ei lansio ar ôl i Syr John Armitt, Cadeirydd y Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol, ddatgan nad yw cymunedau yn Lloegr am foddi eu cymoedd, a bod Severn Trent and Thames Water yn trafod ffyrdd o drosglwyddo dŵr o Lyn Efyrnwy i ddyffryn Tafwys.
‘Llond bol’
Mae’r ddeiseb yn honni y gallai’r dŵr mae Cymru’n ei allforio i Loegr fod werth cymaint â £4.5bn y flwyddyn.
“Fe benderfynon ni fel aelodau ddod yma heddiw i Dryweryn a Llanwddyn i dynnu sylw at y ffaith bod adnoddau a nwyddau mwyaf gwerthfawr Cymru yn cael eu hecsbloetio gan gorfforaethau mawr er budd eu cyfranddalwyr,” meddai Geraint Thomas, un o gyfarwyddwyr YesCymru ac un o aelodau grŵp y Bala.
“Dylai unrhyw elw a wneir o’r dyfroedd hyn gael ei ailfuddsoddi yn ein cymunedau nid pluo nyth aelodau rhyw fwrdd a leolir yn Ninas Llundain. Ni fyddwn byth yn elwa o’n hadnoddau naturiol nes ein bod yn genedl sofran annibynnol.
“Mae pobol Cymru wedi cael llond bol o’r sefyllfa. Rydym yn annog pawb sy’n poeni am ddyfodol ein gwlad i arwyddo’r ddeiseb.”