Mae angen i Gymru gymryd “rheolaeth dros ein hadnoddau naturiol ein hunain”, yn ôl Geraint Thomas, un o gyfarwyddwyr YesCymru.

Daw hyn ar ôl i ddeiseb yn galw am hynny gael ei llofnodi gan dros 3,500 o bobol.

Cafodd y ddeiseb ei chreu gan un arall o gyfarwyddwyr YesCymru, Nerys Jenkins, fel ymateb i’r newyddion bod y gwaith o drosglwyddo dŵr Cymru i dde Lloegr eisoes wedi dechrau yn sgil sychder.

Mae’r ddeiseb yn honni y gallai’r dŵr mae Cymru’n ei allforio i Loegr fod werth cymaint â £4.5bn y flwyddyn.

“Mae’r gwaith eisoes wedi dechrau i drosglwyddo dŵr o Gymru i ardaloedd sy’n dioddef o sychder, yn ôl Cadeirydd y Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol,”  meddai Nerys Jenkins, gan annog pobol i lofnodi’r ddeiseb.

“Mae dŵr yn adnodd gwerthfawr ac mae hwn yn enghraifft arall o Lundain yn cymryd ein hadnodd mwyaf gwerthfawr heb unrhyw ymgynghoriad na budd i’n cymunedau.

“Mae Cymru’n gyfoethog o ran adnoddau naturiol ac allwn ni ddim parhau i ganiatáu i’n dyfodol a’n cyfoeth gael ei gipio oddi wrthym.

“Mae’n rhaid i bob adnodd naturiol fod o fudd i ni’r bobol sy’n byw yng Nghymru.”

‘Rydan ni wedi colli gymaint’

“Mae YesCymru yn fudiad sy’n ymgyrchu dros annibyniaeth yn unig, ond yn amlwg mae’r ffaith bod gymaint o’n hadnoddau ni’n cael ei golli i San Steffan yn peri gofid,” meddai Geraint Thomas wrth golwg360.

“Yn enwedig yn dilyn y sôn yn ddiweddar bod dŵr yn mynd i gael ei ddargyfeirio o Gymru i dde Lloegr.

“Mae o’n rywbeth rydan ni fel mudiad yn teimlo’n gryf amdano, ac mae o’n rywbeth mae pobol Cymru yn teimlo’n gryf amdano, yn enwedig yn hanesyddol.

“Rydan ni wedi colli gymaint o’n dyffrynnoedd a phentrefi i gronfeydd dŵr.

“Tasan ni’n cael rheolaeth dros ein hadnoddau naturiol ein hunain, mi fasa o lot mwy o fudd i bobol Cymru.

“Rydan ni’n colli gymaint o incwm bob blwyddyn, dim jyst efo dwr ond hefyd efo pethau fel trydan.

“Cryfder mawr Cymru ydi bod gennon ni gymaint o adnoddau naturiol.

“Rydan ni’n colli biliynau o bunnoedd bob blwyddyn o Gymru oherwydd ein bod ni’n rhoi’r dŵr i ffwrdd am ddim i ddinasoedd fel Lerpwl, Birmingham a Manceinion.

“Mae o’n mynd i fod yn rhan fawr o’n heconomi ni fel gwlad annibynnol.

“Dŵr fydd yr olew newydd pan ddaw hi at newid hinsawdd ac ati, mae o’n adnodd pwysig ofnadwy.”