Wrth i dwristiaid a thrigolion lleol ymweld â mannau prydferth ledled y wlad dros ŵyl y banc, mae’r pryder yn cynyddu gan fod biniau mewn mannau prydferth wedi cael eu gadael yn gyforiog o sbwriel ar ôl y tywydd poeth diweddar.

Fel arfer, caiff tipio anghyfreithlon ei gysylltu â llond faniau o deiars, soffas ac eitemau cartrefi yn cael eu gadael mewn mannau cudd, answyddogol.

Ond haf yma, fe fu cynnydd yn yr hyn sy’n cael ei alw’n ‘dipio anghyfreithlon damweiniol’ mewn mannau prydferth, gydag aelodau o’r cyhoedd yn gadael biniau’n gyforiog o sbwriel, yn rhoi bagiau sbwriel wrth ymyl biniau llawn, yn gadael sbwriel wrth ymyl mannau gwaredu gwastraff ac yn gadael pethau fel offer barbeciw a gwersylla ar safleoedd o harddwch naturiol.

Yn ôl Tipio Anghyfreithlon Cymru ynghyd ag Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, mae disgwyl i’r ‘tipio anghyfreithlon damweiniol’ hwn gynyddu dros ŵyl y banc.

Er mwyn helpu i fynd i’r afael â’r broblem cyn iddi ddigwydd, mae’r sefydliadau’n atgoffa ymwelwyr i ddod â’u bagiau sbwriel eu hunain gyda nhw, fel bod modd iddyn nhw fynd â’u sbwriel adref gyda nhw ac osgoi ‘tipio anghyfreithlon damweiniol’ sy’n difetha cynifer o dirweddau hardd Cymru.

‘Pryder’

“Rydyn ni’n gweld cynnydd yn yr hyn a elwir yn ‘dipio anghyfreithlon damweiniol’ – rhywbeth sy’n destun pryder inni,” meddai Neil Harrison, Rheolwr Prosiect yn Taclo Tipio Cymru.

“Mae pobol yn meddwl eu bod nhw’n gymwynasgar trwy adael eu sbwriel wrth ymyl biniau; ond mewn gwirionedd, mae hyn yn enghraifft o dipio anghyfreithlon.

“Dim ond hyn a hyn y gall casglwyr gwastraff awdurdodau lleol ei wneud, a dyw hi ddim yn ddiogel gadael gormodedd o wastraff i’w gasglu.

“Golyga hyn fod gadael biniau’n gyforiog o sbwriel yn broblem amgylcheddol a hefyd yn broblem o ran iechyd y cyhoedd. Ymhellach, fe allai unrhyw aelod o’r cyhoedd a geir yn euog o dipio anghyfreithlon wynebu dirwy fawr.

“Rydyn ni’n gofyn i’r cyhoedd ein helpu i ddiogelu amgylchedd naturiol Cymru a mynd â’u sbwriel adref gyda nhw os bydd y biniau’n llawn, gan sicrhau y bydd modd i bawb allu mwynhau ein mannau prydferth.”

Ymgyrch i annog pobol i newid eu hymddygiad

Gan fod 20% o’r bobol a gafodd eu holi fel rhan o adroddiad diweddar gan DEFRA1 wedi cyfaddef eu bod nhw wedi ymddwyn mewn modd y gellid ei ystyried fel ‘tipio anghyfreithlon damweiniol’, y gobaith yw y bydd y lluniau sydd wedi’u rhyddhau yn annog ymwelwyr ledled Cymru, a’r Deyrnas Unedig yn gyffredinol, i adael ‘dim ond olion traed’ a mynd â’u sbwriel a’u heiddo adref gyda nhw ar ôl ymweld â mannau prydferth yn yr awyr agored.

“Mae’r duedd a welir o ran tipio anghyfreithlon damweiniol mewn mannau prydferth wedi cynyddu ochr yn ochr â’r cynnydd mewn ymwelwyr sy’n chwilio am fannau awyr agored i ddianc iddyn nhw yn ystod ac ar ôl y pandemig – mae nifer o’r rhain yn gynulleidfaoedd newydd a dydyn nhw ddim yn gyfarwydd â chanllawiau’r Cod Cefn Gwlad,” meddai Jodie Bond, Pennaeth Adran Gyfathrebu Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

“Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau y bydd ein Parciau Cenedlaethol yn hygyrch, yn lân ac yn ddiogel i bawb sy’n dymuno ymweld â nhw – dyna pam rydyn ni’n gweithio mewn partneriaeth â Taclo Tipio Cymru er mwyn ceisio mynd i’r afael â’r broblem unwaith ac am byth.

“Hoffwn ni ddiolch o galon i’r holl ymwelwyr a ddaw â bagiau sbwriel gyda nhw wrth ymweld y tro nesaf ag awyr agored bendigedig Cymru.

“Trwy fynd â’ch sbwriel adref gyda chi, byddwch yn helpu i roi stop ar dipio anghyfreithlon, gan sicrhau y bydd Parciau Cenedlaethol Cymru yn parhau i fod mor hardd a dilychwin â phosibl.”