Mae Plaid Cymru wedi ailadrodd eu galwadau yn erbyn defnyddio tir amaethyddol i dyfu coed.
Dylid dysgu gwersi ar ôl i ystâd yn Nyffryn Tywi gael ei phrynu gan Lywodraeth Cymru er mwyn plannu coed, meddai’r blaid.
Llain o dir amaethyddol ydy Ystâd Brownhill, ac mae Llywodraeth Cymru bellach wedi ailystyried eu cynlluniau yn dilyn ymgyrchu gan y Gynghrair Cefn Gwlad ac ar ôl i Blaid Cymru godi’r mater yn y Senedd.
Maen nhw bellach wedi cadarnhau y bydd Ystâd Brownhill yn cael cadw “rhywfaint o’i defnydd amaethyddol”, gan gyfuno cynhyrchu bwyd â phlannu coed.
Mae llefarydd Plaid Cymru dros amaethyddiaeth a materion gwledig, Mabon ap Gwynfor, wedi galw am “ddysgu gwersi” o’r “saga druenus” hon.
Dylai Llywodraeth Cymru edrych eto ar diroedd eraill y maen nhw wedi’u prynu ar gyfer plannu coed, llefydd megis Tyn Mynydd ger Porthaethwy ar Ynys Môn, ychwanega.
Mae Mabon ap Gwynfor wedi galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda’r gymuned wledig er mwyn adnabod y tir gorau ar gyfer plannu coed, er mwyn sicrhau eu bod nhw wirioneddol yn gallu plannu “y goeden gywir yn y lle iawn am y rheswm cywir”.
Dysgu gwersi er lles cenedlaethau’r dyfodol
Dywedodd Mabon ap Gwynfor: “Mae’r penderfyniad yma gan Lywodraeth Cymru i gadw tir amaethyddol blaenllaw ar gyfer cynhyrchu bwyd ar Ystâd Brownhill i’w groesawu’n fawr, er mor hwyr.
“Nid yw tir porfa amaethyddol yn cael ei droi, ac mae’r gwreiddiau a’r pridd yn cloi cymaint o garbon i mewn â rhai coed, felly ni fyddai plannu coed ar y tir hwn yn achosi mwy o fudd amgylcheddol.
“Yn ogystal, byddai colli’r tir hwn, sy’n werthfawr ar gyfer cynhyrchu bwyd, yn golled i Gymru. Byddai’n cael effaith ddinistriol ar gymunedau gwledig ac yn erydu ffordd o fyw, iaith a diwylliant sydd wedi’u plethu â bywyd cefn gwlad Cymru, ynghyd â gwneud niwed i gynhyrchiant bwyd.
“Mae angen i Lywodraeth Cymru ddangos eu bod wedi dysgu gwersi fel hyn – er lles cenedlaethau’r dyfodol.
“Yn y cyfamser, mae yna diroedd pori amaethyddol sydd eisoes wedi cael eu prynu gan Lywodraeth Cymru – fel Tyn Mynydd ar Ynys Môn. Rwy’n erfyn ar Lywodraeth Cymru i ailystyried eu penderfyniad i blannu coed ar y tir pori amaethyddol gwerthfawr hwn.”