Yn ddiweddar, mae cynghorau, ffermwyr, mudiadau iaith, ac Aelodau o’r Senedd wedi bod yn galw am wneud mwy i sicrhau nad yw coed yn cael eu plannu ar draul cymunedau lleol a’r Gymraeg. Yma, mae Cynog Dafis, cyn-Aelod Cynulliad Plaid Cymru sy’n Aelod o Fwrdd Dyfodol i’r Iaith, yn ystyried sut i sicrhau hynny.
Mae Dyfodol i’r Iaith yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddeddfu ar frys er mwyn rhwystro plannu coed ar dir anaddas ac i sicrhau y bydd yr elw o unrhyw blannu yn aros yng Nghymru.
Mae Dyfodol yn derbyn yr angen am blannu coed er mwyn cyfrannu at yr ymdrech gydwladol i atal newid hinsawdd ac yn cefnogi targed Llywodraeth Cymru o blannu cyfanswm o 180,000 hectar.
Yn ogystal ag amsugno carbon, byddai plannu coed yn fuddiol mewn sawl ffordd arall.
Gall wneud synnwyr i blannu coed amrywiol ar dir amaethyddol sâl er mwyn chyrchu pren, cynnyrch proffidiol ac adnewyddol. Dros amser, felly, byddai coed yn cryfhau ac amrywioli economi cefn gwlad.
Yn ail, byddai gelltydd coed newydd yn creu cynefin i fywyd gwyllt, gan gyfrannu at yr ymdrech fyd-eang hollbwysig i ddiogelu amrywioldeb byd natur. Byddai hynny yn ei dro yn creu swyddi ac yn cyfoethogi ansawdd bywyd ein cefn gwlad.
Mae coed hefyd yn cadw dŵr yn y pridd ac yn help i atal llifogydd.
Ble i blannu?
Fodd bynnag, rhaid sicrhau bod y plannu’n digwydd ar dir sy’n addas i’r pwrpas. Dylid osgoi plannu ar dir amaethyddol da, yn enwedig dolydd ffrwythlon a mawnogydd sy’n storfa bwysig i garbon. Yn bendant rhaid rhwystro’r arfer o blannu ffermydd cyfain.
Tir is ei werth sy’n addas i blannu coedlannau newydd, yn bennaf ar ffriddoedd llethrog, sy’n aml wedi’u gorchuddio â rhedyn. Yn ail, byddai gelltydd coed newydd yn creu cynefin i fywyd gwyllt, gan gyfrannau at yr ymdrech fyd-eang hollbwysig i ddiogelu amrywioldeb byd natur. Byddai hynny yn ei dro yn creu swyddi ac yn cyfoethogi ansawdd bywyd ein cefn gwlad.
Coed yn Ased Cymreig
Yn yr hinsawdd economaidd newydd sy’n dod yn sgil yr ymrwymiadau i ddiogelu byd natur, fe ddaw’r gallu i amsugno carbon yn ariannol werthfawr.
Ar hyn o bryd mae gwir berygl i gyfran fawr o’r budd ariannol potensial sylweddol yma (cymaint â £1bn dros bum mlynedd) gael ei gipio gan sefydliadau busnes grymus allanol er dirfawr golled i’n cefn gwlad, gan ddinistrio llawer o ffermydd ar ein tir gorau.
Sut i weithredu?
Dylai Llywodraeth Cymru ddefnyddio deddfwriaeth gynllunio i rwystro ymyriad buddiannau masnachol allanol yn y maes hwn.
Byddai’r ddeddfwriaeth newydd yn penodi pa fath o diroedd sy’n addas i blannu coed ac yn gwahardd plannu ar dir anaddas. Buan y collai sefydliadau mawrion allanol ddiddordeb mewn plannu ar y lleiniau cymharol fychain o dir sy’n addas i gefn gwlad Cymru. Byddai’r math o gefnogaeth ariannol y mae Llywodraeth Cymru yn ei darparu ar hyn o bryd yn parhau ac yn llifo i mewn i’n heconomi gwledig ni.
Yn ogystal, byddai modd defnyddio’r amsugniadau carbon i offsetio’r allyriadau nwyon tŷ gwydr (tua 15% o holl allyriadau Cymru) sy’n codi o’r ffarmio da byw ar gyfer cig a llaeth sydd mor allweddol i economi Cymru wledig.
Barn Dyfodol yw mai ein busnesau brodorol ni a ddylai elwa o’r datblygiadau pwysig yma, nid buddiannau allanol sydd am fachu’n hadnoddau naturiol ni er mwyn caniatáu iddynt gynnal y “busnes fel arfer” sy’n bygwth dyfodol dynoliaeth a byd natur.