Mae Plaid Ifanc wedi llongyfarch Sinn Féin ar eu canlyniadau etholiad “hanesyddol” yng ngogledd Iwerddon.

Allan o’r 90 sedd oedd ar gael, cipiodd y blaid genedlaetholgar 27 ohonyn nhw, sy’n golygu y bydd ganddyn nhw’r hawl i enwebu Prif Weinidog am y tro cyntaf erioed.

Un o’r pleidiau unoliaethol – y rhai sydd eisiau aros yn y Deyrnas Unedig – sydd wedi bod yn brif blaid y Cynulliad erioed, a’r senedd cyn hynny ers 1921.

Aelodau o’r DUP sydd wedi dal swydd y Prif Weinidog ers 2007, ond mae eu cyfran nhw o’r bleidlais wedi gostwng erbyn hyn, ac fe wnaethon nhw golli tair sedd i orffen gyda chyfanswm o 25.

Mae Sinn Féin o blaid uno Iwerddon a Gogledd Iwerddon, ond dydy eu buddugoliaeth nhw ddim o reidrwydd yn golygu y bydd refferendwm ar y mater.

‘Comghairdeas’

Mae Plaid Ifanc wedi anfon neges at Sinn Féin yn dweud “Comghairdeas” (llongyfarchiadau).

“Comghairdeas i’n ffrindiau yn Sinn Féin ar eu buddugoliaeth hanesyddol yng ngogledd Iwerddon,” meddai’r neges.

“Mae hwn, y tro cyntaf i blaid genedlaetholgar ennill y nifer fwyaf o bleidleisiau, yn arwyddocaol dros ben.

“Cafodd y gogledd ei dylunio, ers ei chreu, i gynnal mwyafrif unoliaethol.

“An Phoblact Abú! (Hir Oes i’r Weriniaeth!).”