Mae grŵp Plaid Cymru ar Gyngor Castell-nedd Port Talbot wedi cynnig dechrau trafod creu clymblaid yn y Cyngor.
Collodd y Blaid Lafur reolaeth fwyafrifol ar y Cyngor am y tro cyntaf erioed yn sgil yr etholiadau lleol ddydd Iau (Mai 5).
Cafodd 12 o gynghorwyr Plaid Cymru eu hethol yn yr awdurdod, gyda chanlyniadau da i’r blaid yng Nghwm Tawe, Aberafan a Chastell-nedd.
Roedd hwn yn “etholiad hanesyddol sy’n adlewyrchu awydd amlwg pobol Castell-nedd Port Talbot am newid”, meddai’r Cynghorydd Alun Llewelyn, arweinydd Plaid Cymru ar y Cyngor.
“Mae 12 cynghorydd Plaid Cymru’n awyddus i drafod rhaglen o bolisïau er mwyn ffurfio gweinyddiaeth flaengar newydd gyda chynghorwyr annibynnol ac eraill yng Nghastell-nedd Port Talbot,” meddai.
“Mae adolygu polisïau cau ysgolion, strategaeth ar gyfer y cymoedd, cefnogi busnesau bach ynghanol trefi, a chefnogaeth well ar gyfer datblygiad economaidd ymysg ein blaenoriaethau.
“Rydyn ni eisiau mynd i’r afael â’r dirywiad amgylchedd dros Gastell-nedd Port Talbot hefyd a sicrhau bod gwasanaethau amlwg a gofal strydoedd yn gwella’n sydyn.
“Dw i’n hyderus bod yna gytuno ar sawl un o’r materion hyn ymysg aelodau presennol o’r pleidiau eraill.
“Dyna pam mae Plaid Cymru’n awyddus i archwilio’r posibilrwydd o greu clymblaid er lles pawb ac rydyn ni’n edrych ymlaen at drafodaethau adeiladol a chadarnhaol dros yr ychydig wythnosau nesaf.”