Bydd Tocyn Croeso yn galluogi ffoaduriaid a phobol o Wcráin i deithio yn rhad ac am ddim ar fysiau.

Byddan nhw hefyd yn cael mynediad rhad ac am ddim i safleoedd Cadw ar draws Cymru.

Mae’r ddau gynllun, sy’n cael eu cyhoeddi gan Lywodraeth Cymru heddiw (dydd Llun, Mai 9), yn pwysleisio ymrwymiad Cymru i fod yn Genedl Noddfa i bobol sy’n dianc rhag gwrthdaro a chamdriniaeth ledled y byd.

Bydd y Tocyn Croeso, a fydd ar gael i ffoaduriaid a phobol sy’n cyrraedd o Wcráin, yn cynnwys y rhan fwyaf o wasanaethau bysiau sy’n rhedeg yng Nghymru, ac yn adeiladu ar y cynllun peilot teithio ar y rheilffyrdd am ddim am chwe mis, a gafodd ei gyhoeddi ychydig wythnosau’n ôl.

Mae’n darparu teithio am ddim diderfyn i bob person cymwys ar wasanaethau bysiau lleol, gan gynnwys y rhai sy’n gweithredu i Loegr lle mae’r daith yn dechrau neu’n gorffen yng Nghymru.

Bydd y cynllun Tocyn Croeso ar waith am chwe mis ac yn dod i ben ar Fedi 30.

‘Cam mawr ymlaen’

“Mae hwn yn gam mawr ymlaen o ran sicrhau bod ffoaduriaid a phobol o Wcráin yn gallu teithio’n rhydd ledled Cymru – bydd yn eu helpu i integreiddio yng Nghymru ac i wneud cyfraniad cadarnhaol i’n cenedl,” meddai Lee Waters, y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd.

“Hoffwn dalu teyrnged i’r holl gwmnïau bysiau hynny ledled Cymru am gymryd rhan yn y cynllun hwn – mae’n dangos eu hymrwymiad i wneud Cymru’n genedl noddfa go iawn.”

Tocyn Croeso

Mae’r Tocyn Croeso yn gynllun gwirfoddol lle gall cwmnïau bysiau ledled Cymru ddewis cymryd rhan.

Bydd angen i bobol ddangos tystiolaeth o’u cymhwysedd ar gyfer y cynllun, a allai fod yn basbort, fisa neu drwydded breswyl fiometrig wrth fynd ar y bws. Yna, byddan nhw’n cael Tocyn Croeso gan y gyrrwr bws.

Mae Cadw hefyd wedi cyhoeddi eu cynllun i gynnig mynediad unigol neu deuluol am ddim i holl safleoedd Cadw ar gyfer ffoaduriaid a’r rhai sy’n ceisio noddfa yng Nghymru.

Bydd angen i ymwelwyr â safleoedd Cadw sy’n ffoaduriaid, yn geiswyr lloches neu’n bobol o Wcráin ddangos dogfennau priodol gan y Swyddfa Gartref.

‘Dangos beth mae bod yn Genedl Noddfa yn ei olygu’

“Rwy’n falch iawn o weld Cadw yn chwarae ei ran i ddangos beth mae bod yn Genedl Noddfa yn ei olygu,” meddai Dawn Bowden, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon.

“Bydd y cynnig hwn yn ei le tan 25 Hydref, gan sicrhau y bydd pawb sy’n dod i Gymru sy’n ceisio noddfa yn cael cyfle i ymweld â safleoedd diwylliannol a threftadaeth Cymru ledled y wlad yn rhad ac am ddim.”

Yn ôl Jane Hutt, Ysgrifennydd Cyfiawnder Cymdeithasol Cymru, mae Llywodraeth Cymru “wedi cymryd camau breision” er mwyn cyflawni’r addewid o fod yn Genedl Noddfa yng Nghymru, ac mae’r cyhoeddiad diweddaraf yn brawf o hynny.

“Mae bod yn Genedl Noddfa yn golygu croesawu pobol i Gymru a rhoi cymorth a chefnogaeth iddyn nhw i ymgartrefu yng Nghymru,” meddai.

“Rydym yn falch iawn y gallwn ymestyn y cynlluniau gwych hyn i bobol o Wcráin.

“Rydym yn credu’n gryf fod sgiliau, profiad a chydnerthedd ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn gaffaeliad i Gymru – dyna pam rydym yn falch o estyn y croeso ac i gefnogi eu huchelgeisiau i ffynnu yng Nghymru.

“Dyma hanfod bod yn Genedl Noddfa.

“Rydym am sicrhau bod yr unigolion hyn yn cael eu cefnogi i ailadeiladu eu bywydau a chyfrannu’n llawn at gymdeithas yng Nghymru.”