Mae Llywodraeth Cymru wedi addasu eu canllawiau Covid-19 ar gyfer prifysgolion a cholegau yng Nghymru, sy’n golygu bod sefydliadau addysg uwch yn symud yn nes at weddill cymdeithas wrth i’r cyfyngiadau gael eu llacio.

Mae’r fframweithiau rheoli haint eisoes wedi cael eu diddymu ar gyfer busnesau, cyflogwyr a threfnwyr digwyddiadau, ac mae’n ymwneud ag ymlediad y coronafeirws ond hefyd heintiau cyffredin eraill megis norofeirws a’r ffliw.

Mae prifysgolion a cholegau wedi bod yn dilyn cyngor ar gyfer y sector, yn debyg i’r hyn sydd wedi’i ddilyn gan ysgolion, gyda graddfeydd yn amrywio yn ôl sefyllfaoedd unigryw gwahanol ardaloedd.

Ar Ebrill 18, fe wnaeth Llywodraeth Cymru ddileu’r gofyniad cyfreithiol i fusnesau, cyflogwyr a threfnwyr digwyddiadau gwblhau asesiadau risg penodol a rhoi camau rhesymol ar waith i atal ymlediad y feirws.

‘Parhau i ddarparu addysg wedi bod yn flaenoriaeth’

“Dw i am ddiolch i staff a myfyrwyr ein colegau a’n prifysgolion am eu hymdrechion aruthrol drwy gydol y pandemig, nid dim ond wrth gefnogi myfyrwyr i ddal ati i ddysgu, ond hefyd am eu rôl fel arweinwyr yn y frwydr yn erbyn y coronafeirws,” meddai Jeremy Miles, Ysgrifennydd Addysg a’r Gymraeg yn Llywodraeth Cymru.

“Mae parhau i ddarparu addysg wedi bod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru drwy gydol y pandemig.

“Rydyn ni wedi gweithio’n agos gyda’r sector i ofalu bod yr amgylchedd dysgu yn ddiogel rhag Covid a bod cyfleusterau dysgu ar gael wyneb yn wyneb ar ein campysau.

“Erbyn hyn rydyn ni mewn sefyllfa sefydlog o ran Covid, ac mae’r risgiau o ran iechyd cyhoeddus o fewn addysg uwch a phellach wedi lleihau’n sylweddol.

“Dydy parhau â mesurau iechyd cyhoeddus ychwanegol ddim yn ymateb cymesur bellach, felly, ac rydyn ni wedi gofyn i sefydliadau ddiddymu’n ffurfiol eu fframweithiau rheoli haint o heddiw ymlaen.”