Mae Ysgrifennydd Economi Cymru yn mynnu y dylai Llywodraeth San Steffan weithredu ar unwaith i leihau costau ynni a thanwydd i fusnesau.

Daw galwad Vaughan Gething cyn i nifer o filiau ynni masnachol godi mwy na phedair gwaith yr hydref hwn.

Mae busnesau wedi bod yn dweud wrth golwg360 eu bod nhw’n cael eu heffeithio’n arw gan yr argyfwng costau ynni, a bydd Vaughan Gething yn cynnal cyfarfod brys â chynrychiolwyr busnes heddiw.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, maen nhw wedi defnyddio’r holl ysgogiadau ariannol sydd ar gael iddyn nhw i ddarparu pecyn o fusnesau i gefnogi aelwydydd ledled Cymru i ddelio â’r argyfwng.

Fodd bynnag, dim ond Llywodraeth y Deyrnas Unedig sydd â’r dulliau angenrheidiol i warchod busnesau ar unwaith, meddai.

“Mae’r argyfwng costau byw sy’n digwydd yn y Deyrnas Unedig yn cael effaith sylweddol ar deuluoedd ledled y wlad,” meddai Vaughan Gething.

“Rydym hefyd yn wynebu argyfwng costau busnes, gyda busnesau ledled Cymru’n wynebu pwysau cynyddol annioddefol oherwydd biliau ynni a thanwydd yn codi’n aruthrol.

“Ein busnesau yw anadl einioes ein cymunedau. Maen nhw’n darparu’r swyddi y mae pobl yn dibynnu arnyn nhw am eu bywoliaeth.

“Fel Gweinidog Economi Cymru, fy mlaenoriaeth ar hyn o bryd yw gwneud yr hyn a allaf i ddiogelu ein heconomi a’r bobl sy’n gweithio oddi mewn iddo.

“Dyna pam rwy’n mynnu bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn camu i’r adwy ac yn gweithredu ar unwaith nawr, trwy ddefnyddio’r pwerau sydd ganddyn nhw yn unig i ymyrryd yn yr argyfwng hwn.

“Rhaid iddyn nhw gyflwyno mesurau i leihau chwyddiant a darparu’r cymorth ychwanegol sylweddol sydd ei angen ar bobl a busnesau.

“Oni bai eu bod yn gweithredu nawr, maen nhw mewn perygl o achosi niwed sylweddol i economi Cymru. Ni ellir caniatáu i hyn ddigwydd.”

Costau ynni’n taro tafarndai Cymru

Elin Wyn Owen

Biliau ynni tafarn y Black Boy yng Nghaernarfon wedi dyblu i £100,000 eleni, a’r perchennog yn disgwyl i bethau waethygu