Mae newyddiadurwr sydd ar streic yn sgil anghydfod tâl wedi dweud wrth golwg360 nad oedd ganddi hi a’i chydweithwyr “ddim dewis ond mynd ar streic”.

Dywedodd Undeb Cenedlaethol y Newyddiadurwyr (NUJ) y byddai newyddiadurwyr cwmni Reach – sy’n cwmpasu papurau newydd y Western Mail a’r Daily Post, yn ogystal â gwefannau WalesOnline a North Wales Live – yn cerdded allan.

Byddan nhw’n ymuno â chydweithwyr ar draws y Deyrnas Unedig sy’n gweithio i’r Mirror, The Daily Express, The Daily Record, The Mail on Sunday, Manchester Evening News, The Liverpool Echo, The Bristol Post, The Birmingham Mail a’r Journal.

Cafodd streic oedd wedi’i chynllunio ar gyfer dydd Gwener diwethaf (Awst 26) ei gohirio ar ôl i Reach gynnig trafodaethau pellach, ond daeth trafodaethau rhwng Reach ac Undeb Cenedlaethol y Newyddiadurwyr i ben heb gytundeb.

Fe wnaeth cynrychiolwyr Undeb Cenedlaethol y Newyddiadurwyr o bob rhan o’r Deyrnas Unedig ac Iwerddon basio pleidlais o ddiffyg hyder yn Jim Mullen, prif weithredwr Reach, a hynny mewn cyfarfod ddydd Llun (Awst 29), meddai’r undeb.

Fe wnaethon nhw hefyd ychwanegu at y diwrnodau o weithredu’n ddiwydiannol.

Bydd streic dridiau bellach yn cael ei chynnal rhwng Medi 13 a 15, gan gyd-fynd ag wythnos Cyngres yr Undebau Llafur yn Brighton.

Roedd Reach wedi cynnig codiad cyflog o 3%, oedd yn werth £750, ond fe gafodd ei wrthod gan 79% o aelodau’r undeb mewn pleidlais yn gynharach yn y mis.

Mae’r undeb yn galw am godiad cyflog o 8%, fyddai’n werth £2,000.

‘Rhwystredig’

“Mae o’n rwystredig oherwydd roedden ni’n meddwl ein bod ni’n mynd ar streic dydd Gwener diwethaf,” meddai newyddiadurwr, sydd ddim am gael eu henwi, wrth golwg360.

“Wedyn gawson ni wybod noson cyn y brotest bod y streic di cael ei ganslo a bod yna drafodaethau am gael eu cynnal.

“Roedd pawb yn teimlo ‘O, diolch byth bod hyn wedi digwydd’, bod yna ryw fath o gynnydd, ein bod ni am gael atebion.

“Cafodd trafodaethau eu cynnal dros ŵyl y banc a ddaru nhw (Reach) ddim newid eu penderfyniad nhw o gwbl.

“Felly mae o’n rwystredig achos dydan ni ddim eisiau mynd ar streic, does yna neb eisiau bod mewn sefyllfa fel yma.

“Mae o jyst yn teimlo fel bod gennym ni ddim dewis ond mynd ar streic, dyma’r unig ffordd rydan ni’n teimlo y gallwn ni anfon neges i Reach.”

‘Cyfnod ofnadwy o anodd’

“Mae 3% werth tua £750 yn ychwanegol i’n tâl ni,” meddai wedyn.

“Dydi hwnna ddim yn mynd i gyfro’r cynnydd mewn costau yn yr argyfwng yma.

“Rydan ni’n gwybod y bydd prisiau yn mynd yn uwch ac yn uwch.

“Dydi’r streic yma ddim amdan performance pay rise, mae hyn er mwyn i ni allu byw yn yr argyfwng costau byw.

“Dw i’n meddwl mai dyna ydi’r bare minimum y dylen ni ddisgwyl, ein bod ni’n gallu byw, a bod ein gwaith ni’n gofalu amdanon ni mewn cyfnod ofnadwy o anodd.

“Dydi hynna ddim yn gofyn lot.

“Yr eironi ydi ein bod ni wedi bod yn gohebu am sut mae’r argyfwng costau byw yn effeithio ar bobol, yn effeithio ar ein darllenwyr ni, ar beth sy’n mynd i ddigwydd yn y misoedd nesaf a pha gymorth sydd ar gael.

“Ond eto dydi Reach ei hunain ddim yn cydnabod hynny a sut mae o’n effeithio ni fel unigolion.

“Dw i’n gwybod, ar ddiwedd y dydd, ein bod ni’n newyddiadurwyr, a bod gan bobol deimladau cymysg am newyddiaduraeth.

“Ond rydan ni dal yn bobol, mae gennym ni deuluoedd, biliau i’w talu a dyna beth sy’n bwysig yn y fan yma a dyna mae’n rhaid iddyn nhw gydnabod.”

‘Hinsawdd economaidd ansicr’

“Rydym yn gwerthfawrogi’n newyddiadurwyr yn fawr ond yn anffodus, er gwaethaf ein hymdrechion gorau yn ystod proses drafod hir a chytundebau llwyddiannus gydag Unite a’r BAJ (Cymdeithas Newyddiadurwyr Prydain), nid ydym wedi gallu dod i gytundeb gyda’r NUJ,” meddai llefarydd ar ran Reach.

“Er nad dyma’r canlyniad y byddem wedi dymuno ei gael, mae 2022 yn parhau i fod yn heriol tu hwnt i’r sector gyda llai o alw am hysbysebu a chwyddiant ynni yn gyrru cost printio i’r lefelau uchaf erioed.

“Felly, rydym yn parhau i ganolbwyntio ar amddiffyn buddiannau ein holl gydweithwyr a rhanddeiliaid, gan sicrhau bod gan y grŵp ddyfodol cynaliadwy yn wyneb hinsawdd economaidd ansicr.

“Rydym yn parhau i fod yn agored i drafodaethau pellach ar unrhyw adeg i ddatrys yr anghydfod yma.”