Mae cynlluniau i droi maes saethu colomennod clai mewn hen goedwig ger Aberhonddu’n ddatblygiad twristaidd wedi cael eu cymeradwyo gan gynllunwyr Cyngor Sir Powys.

Fe wnaeth Mr a Mrs Cherrington o faes saethu Woodland yng Nghoed Funglas, Talachddu ger Aberhonddu, gais ym mis Mawrth ar gyfer wyth pod gwyliau, toiledau a chawodydd, a dwy safle i drin carthffosiaeth yno.

Roedd gan y maes saethu ganiatâd cynllunio blaenorol ers 2013.

Byddai hyn wedi eu galluogi nhw i godi maes tanio dan do, caffi a thoiledau yno, ond dydy hyn ddim wedi digwydd.

Fe wnaeth Cyngor Cymuned Felinfach drafod y cais a wnaethon nhw ddim gwrthwynebu’r cais, ond roedden nhw eisiau “tynnu sylw” at bryderon y gall fod yna wenwyn plwm ar y safle o ganlyniad i’r maes saethu.

Y cais

“Mae safle’r cais yn gorwedd o fewn safle hen goedwig o’r enw Coed Funglas,” meddai Lorraine Jenkins, swyddog cynllunio Powys.

“Bydd mynediad i’r safle ar y fynedfa bresennol i’r safle saethu colomennod clai, a bydd pob pod ar y safle wedi’u cysylltu drwy lwybrau cerdded sydd yno ar hyn o bryd.

“I gloi, ystyrir bod y cais yn gynllun sydd wedi’i ddylunio’n dda yn nhermau dyluniad yr unedau arfaethedig a’r defnydd o adeiladau presennol.

“Mae’r datblygiadau ecolegol yn cael eu hystyried yn ddigonol ar gyfer lleoliad a graddfa’r cynnig.”

Mae Lorraine Jenkin yn awgrymu rhoi caniatâd amodol i’r cais, ac wedi ychwanegu 12 o amodau y bydd yn rhaid i’r sawl sy’n gwneud cais gadw atyn nhw.

Un o’r amodau yw fod dau le pasio yn cael eu hadeiladu ar y ffordd gyfagos, yn unol ag argymhelliad yr awdurdod priffyrdd.

Amod arall yw y bydd y podiau ond yn cael eu defnyddio fel llety gwyliau ac nid fel prif gartref unrhyw un.

I brofi hyn, bydd yn rhaid i’r sawl sy’n gwneud cais gadw cofrestr a’i diweddaru’n dangos cyfeiriadau cartref ymwelwyr a’r dyddiau buon nhw’n aros yno.

Bydd yn rhaid i’r gofrestr fod ar gael i’w harchwilio.