Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn tynnu sylw at dreth dwristiaeth bosib er mwyn “tynnu sylw oddi ar fethiannau” eu plaid yn San Steffan, yn ôl Mabon ap Gwynfor.

Mae Cynghrair Twristiaeth Cymru – dan gadeiryddiaeth Suzy Davies, y cyn-Aelod Ceidwadol o’r Senedd – wedi rhybuddio heddiw (dydd Mercher, Awst 31) fod nifer o fusnesau’n poeni y byddai treth dwristiaeth yn arwain at lai o ymwelwyr wrth i fusnesau gael trafferth ymdopi â chostau ynni cynyddol.

Ond yn ôl Mabon ap Gwynfor, mae’r holl sôn am dreth dwristiaeth – mater fydd yn destun ymgynghoriad gan Lywodraeth Cymru – yn ffordd i’r Ceidwadwyr Cymreig “shifftio’r bai” am broblemau yn y sector.

Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn methu â sôn o gwbl am yr argyfwng costau ynni er bod gan Lywodraeth Geidwadol y Deyrnas Unedig y grym i weithredu, medd Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Ddwyfor Meirionydd.

Targedu ardollau

Yn ôl y BBC yr wythnos hon, mae’r dreth dwristiaeth mewn maes parcio yn Bourton-on-the-Water yn y Cotswolds wedi codi £62,000 i’r gymuned leol.

“Mae yna dystiolaeth ar draws y byd, a dyma’r diweddaraf o’r fath yma o dystiolaeth yn dangos pan bod ardal wleidyddol benodol – boed yn awdurdod neu’n wladwriaeth – yn penderfynu gosod ardoll o’r fath ei fod o’n dod â phres mewn, ac maen nhw’n gallu’i fuddsoddi’n ôl mewn i’r gymuned,” meddai Mabon ap Gwynfor wrth golwg360.

Ond oes yna le i dargedu’r ardollau mewn mannau lle mae niferoedd uchel o dwristiaeth yn bygwth seilwaith cymunedol a gwasanaethau cyhoeddus?

“Mae elfennau o hynny’n digwydd yn barod, yn yr un ystyr â Bourton-on-the-Water, mae yna bentrefi yng Nghymru sydd efo pris parcio, er enghraifft, uwch yn ystod tymor ymwelwyr nag ydy o’n ystod gweddill y flwyddyn ac mae’n dod â phres mewn i’r ardal honno,” meddai Mabon ap Gwynfor wedyn.

“Mae yna le i’w dargedu, a dw i’n bersonol, ac o siarad yn bersonol, yn un sy’n credu y dylid datganoli i’r lefel mwyaf lleol posib, ac felly rhoi’r grym i awdurdodau lleol i benderfynu os ydyn nhw eisiau cynyddu mwy neu lai.”

‘Dewis peidio gweithredu’

Wrth ymateb i bryderon gan Gynghrair Twristiaeth Cymru ynghylch yr effaith ar fusnesau, dywed Mabon ap Gwynfor mai ardoll ar ymwelwyr sy’n cael ei gynnig gan Lywodraeth Cymru.

“Dydy busnesau ddim yn gorfod talu treth, dyna un peth rydyn ni’n ei wybod hyd yma,” meddai.

“Yn amlwg, mae rhywun yn cydymdeimlo â busnesau sy’n pryderu ond y llais a’r sŵn rydyn ni’n ei glywed ar hyn o bryd ydy’r sŵn yn dod gan y Ceidwadwyr a chyfeillion i’r Ceidwadwyr sydd, mewn gwirionedd, eisiau tynnu sylw oddi ar eu methiannau nhw eu hunain.

“Mae’r Ceidwadwyr yn sôn flat out am dreth dwristiaeth, ac yn cymryd unrhyw gyfle posib i sôn amdano fo, tra’n methu â chyfeirio’n llwyr at y cynnydd anferthol sydd wedi bod mewn pris ynni dan eu rheolaeth nhw.

“Maen nhw’n methu â sôn o gwbl bod Treth Ar Werth wedi mynd fyny yn y flwyddyn ddiwethaf i’r sector ymwelwyr, mae hyn yn benderfyniad gwleidyddol gan y Ceidwadwyr yn Llundain.

“Nhw sy’n gorfodi’r dioddefaint ar y sector yma, ac mae o o fewn eu gallu nhw i leihau Treth ar Werth, er enghraifft, i roi cap ar bris ynni. Fe wnaethon nhw gynyddu cyfraniadau’r Yswiriant Gwladol hefyd, sydd wedi’i gwneud hi’n ddrytach i’r sector yma gyflogi.

“Felly, mae gan y Ceidwadwyr, drwy eu Llywodraeth, y gallu i wneud rhywbeth am y sector.

“Maen nhw’n dewis peidio, ac yn dewis shifftio’r bai a thynnu sylw at rywbeth arall sydd ddim wedi digwydd eto.

“Dyna’r pwynt pwysig yn fan hyn, does yna ddim treth ar dwristiaeth ar hyn o bryd. Ymgynghoriad ydy o, a dydyn ni ddim yn gwybod sut fydd o’n edrych pan fydd o’n cael ei gyflwyno, heb sôn am bryd fydd o’n cael ei gyflwyno.”

‘Cyfle cyfleus i dynnu sylw’

Mewn mannau eraill o’r Deyrnas Unedig, gan gynnwys Bourton-on-the-Water, Bath ac Ynys Wyth, mae’r Ceidwadwyr wedi bod yn galw am dreth dwristiaeth.

Wrth siarad â’r BBC, dywedodd arweinwyr grŵp Ceidwadwyr Cyngor Cymuned y Cotswolds, yr wythnos hon fod poblogrwydd Bourton-on-the-Water gyda thwristiaid yn gadarnhaol i fusnesau, ond nad yw’r holl drigolion yn hapus gyda nifer yr ymwelwyr.

“Mae’r cysyniad o ‘dreth twristiaeth’ yn helpu i ddod â’r ddwy farn yma ynghyd ac mae pawb yn elwa mewn rhyw ffordd, ac rydyn ni’n cefnogi’r cysyniad,” meddai Tony Berry.

Mae treth dwristiaeth yn rhywbeth y mae’r sector, “hyd yn oed y Ceidwadwyr”, yn galw amdano mewn ardaloedd eraill, yn ôl Mabon ap Gwynfor.

“Hefyd, mae o’n syndod bod pobol yn mynd mor flin am y syniad yna bod yna brisiau gwahanol yn mynd i fod yng Nghymru o gymharu â gweddill y Deyrnas Gyfunol pan yn barod mae hynna’n bodoli,” meddai.

“Os wyt ti’n mynd i Dŵr Llundain, er enghraifft, mae rhywun o grŵp cymunedol yn Llundain yn cael ymweliad am ddim ond mae ymwelwyr o du allan i Lundain yn gorfod talu.

“Ond, wrth gwrs, mae’n gyfle cyfleus iawn i’r Ceidwadwyr i dynnu sylw oddi ar eu problemau eu hunain drwy feirniadu’r syniad yma yng Nghymru.

“Mae gennym ni ymgynghoriad ar hyn o bryd, a’r hyn fyswn i’n ei wneud ydy annog pawb i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad hwnnw er mwyn gwneud yn siŵr bod yna drawstoriad o leisiau yn cyfrannu ato fo er mwyn i’r Llywodraeth fedru gwneud penderfyniad yn seiliedig ar y dystiolaeth fwyaf eang posib.”

‘Bywoliaethau mewn perygl’

Wrth ymateb i sylwadau Mabon ap Gwynfor, dywed llefarydd ar ran y Ceidwadwyr Cymreig fod y diwydiant twristiaeth “bron yn gyfangwbl unedig” yn erbyn y polisi hwn.

“Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn sefyll ochr yn ochr â nhw yn eu gwrthwynebiad tuag at y weithred hon o hunan-niwed economaidd,” meddai’r llefarydd.

“Mae’n gywir i dynnu sylw at y Dreth ar Werth, oherwydd y ddadl gan Lafur, o blaid y dreth [dwristiaeth], yw fod gwledydd Ewropeaidd eraill yn codi’r dreth. Ond dydyn nhw ddim yn crybwyll bod cyfraddau Treth ar Werth Ewrop yn is ac nad yw rhai ohonyn nhw yn codi Treth ar Werth ar y sector o gwbl.

“Mae Plaid Cymru’n iawn i ddweud bod llefydd eraill dros y byd yn defnyddio treth dwristiaeth. Enghraifft fyddai Fenis, un o leoliadau twristiaeth amlyca’r byd, sydd wedi cyflwyno Treth Dwristiaeth yn ddiweddar i annog pobol i beidio ag ymweld.

“Mae eu penderfyniad yn dangos yn glir bod y trethi hyn yn cael eu defnyddio i gadw pobol draw, yn hytrach nag annog twristiaid i’r ardal.

“Ar amser pan mae’r sector twrisiaeth eisiau pob cymorth posib, mae angen i ‘Blaid Cymru’ honedig sefyll gyda ni i gefnogi’r economi dwristiaeth a gwrthwynebu’r trethi hyn, yn hytrach na chwarae eu rhan fel cymwynaswyr bach Llafur.”

Ar ôl ymchwilio i gostau trethi twristiaeth mewn gwledydd Ewropeaidd, mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi dod i’r canlyniad y gallai teulu o bedwar sy’n aros chwe noson yng Nghymru wynebu cost ychwanegol o £75, yn ôl yr amcangyfrifon.

“Mae’r amcangyfrifon rydyn ni wedi’u cynhyrchu ar gyfer y gost bosib i deuluoedd a busnesau’n syfrdanol,” meddai Tom Giffard, llefarydd twristiaeth y Ceidwadwyr Cymreig.

“Bydd bywoliaethau mewn perygl os yw Llafur yn bwrw iddi efo’r dreth newydd hon gan fod un ymhob saith swydd yn dibynnu ar y diwydiant twristiaeth.”

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud eisoes bod ardollau ymwelwyr yn “rywbeth cyffredin mewn cyrchfannau twristaidd yn rhyngwladol”, a bydd yr ymgynghoriad yn cael ei gynnal yn hwyrach eleni.