Mae llefarydd cyfiawnder cymdeithasol a chydraddoldeb Plaid Cymru yn galw ar gynghorau i agor banciau cynnes fel mesur brys i helpu i wrthsefyll effeithiau gwaethaf yr argyfwng costau byw.
Daw’r alwad gan Sioned Williams ar ôl i Ofgem gyhoeddi y bydd y cap yn cynyddu 80% ym mis Hydref.
Mewn llythyr at Gynghorau Abertawe, Castell-nedd Port Talbot a Phen-y-bont ar Ogwr, dywedodd Sioned Williams fod angen gweithredu yn wyneb pwysau economaidd enfawr ar aelwydydd.
Mae cynghorau wedi pwysleisio’r angen am ymyrraeth gan y Llywodraeth yn sgil maint a natur yr argyfwng gan nodi bod y setliadau ariannu presennol yn annigonol.
‘Gweithredu’n gyflym’
“Wrth i brisiau tanwydd barhau i godi i lefelau cwbl anfforddiadwy, bydd mwy a mwy o deuluoedd yn cael eu gorfodi i ddewis rhwng bwyta pryd o fwyd a chynhesu eu cartrefi,” meddai Sioned Williams.
“Bydd llawer o bobol yn marw oni bai bod llywodraeth ar bob lefel yn cymryd camau cyflym a brys i atal y marwolaethau diangen hyn rhag digwydd.
“Dyna pam rwy’n annog Llywodraeth Cymru i gyflwyno mesurau pellach i liniaru effeithiau gwaethaf yr argyfwng costau byw ac rwy’n galw ar gynghorau yn fy rhanbarth i weithredu’n gyflym i sicrhau nad yw iechyd pobol mewn perygl wrth i ni agosáu at yr hydref a’r gaeaf.
“Mae rhai awdurdodau lleol yn Lloegr yn edrych ar yr opsiwn o agor ‘banciau twym’ – canolfannau lle gall pobol sy’n cael trafferth gwresogi eu cartrefi fynd i gadw’n dwym.
“Er mwyn atal marwolaethau a dioddefaint diangen, mae angen i Lywodraeth Cymru gyflwyno gofyniad ar holl awdurdodau lleol Cymru i gyflwyno’r polisi hwn.”
‘Dod ag ynni o dan berchnogaeth gyhoeddus’
Mae Sioned Williams hefyd wedi galw am rewi rhenti ar gyfer tai cymdeithasol ac am ostwng capiau ar brisiau ynni i’r lefelau roedden nhw cyn Ebrill.
“Yn y tymor hir, mae angen i ni ddod ag ynni o dan berchnogaeth gyhoeddus, fel mae Plaid Cymru wedi bod yn galw’n gyson amdano,” meddai.
“Mae angen inni hefyd edrych ar y camau y gellid eu cymryd i atal trachwant corfforaethol cynhyrchwyr ynni drwy ddeddfwriaeth.
“Fodd bynnag, ar hyn o bryd, mae angen i Lywodraeth y Deyrnas Unedig, Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol i gyd ganolbwyntio’n llawn ar gadw teuluoedd yn gynnes ac ar achub bywydau.
“Ni allwn, o dan unrhyw amgylchiadau, dderbyn yn stoicaidd fod pobol yn wynebu lefelau Fictoraidd o dlodi ac hyd yn oed marwolaeth yng Nghymru’r 21ain ganrif.”