Mae Jo Whitehead, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, wedi cyhoeddi y bydd hi’n ymddeol ar ddiwedd y flwyddyn.

Cafodd ei phenodi fis Ionawr y llynedd, a bydd ei chyfnod wrth y llyw yn dod i ben ym mis Rhagfyr, wrth iddi ddweud ei bod hi’n ymddeol yn gynt na’r disgwyl am resymau teuluol.

Mewn datganiad, mae hi’n dweud bod ei thad-yng-nghyfraith wedi bod yn sâl a bod ei gŵr hefyd wedi ymddeol yn gynt na’r disgwyl er mwyn mynd i’r Almaen i ofalu amdano.

Dechreuodd ei gyrfa fel nyrs yn 1985, gan fentro i fyd rheoli a chael ei phenodi’n Brif Weithredwr yn y Gwasanaeth Iechyd am y tro cyntaf yn 2001.

Mae hi wedi gweithio yng Nghymru, Lloegr ac Awstralia, gan ymgymryd â sawl rôl, gan gynnwys Prif Weithredwr, Dirprwy Brif Weithredwr a Chyfarwyddwr Gweithredol.

“Mae fy ngyrfa dros 37 mlynedd wedi mynd â fi o Sheffield, Caerlŷr, Bryste, Llundain, Swydd Henffordd, Awstralia yn ôl adref i ogledd Cymru – tipyn o daith, gyda phob rôl yn dod â llawenydd a heriau,” meddai Jo Whitehead mewn datganiad.

“Rwy’n ddiolchgar am y cyfleoedd mae’r Gwasanaeth Iechyd yn Lloegr a Chymru wedi’u rhoi i mi.

“Bu’n fraint fawr cael y cyfle ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, ac rwy’n falch o’r cyflawniadau yng ngogledd Cymru na fydden nhw wedi bod yn bosib heb gefnogaeth pawb yn y bwrdd integredig ac yng Ngwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru.

“Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn llawn o’r bobol fwyaf anhygoel ac rwy’n dymuno’n dda i’r sefydliad.

“Bu hwn yn benderfyniad eithriadol o anodd i mi ac nid ar chwarae bach y gwnaethpwyd o.

“Rwy’n gadael yn gynt nag yr oeddwn i wedi’i fwriadu’n wreiddiol, ond mae fy nheulu’n eithriadol o bwysig i mi a rhaid iddyn nhw ddod cyn pob dim arall.”

‘Arweinyddiaeth hanfodol’

Mae Mark Polin, cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, wedi talu teyrnged i Jo Whitehead.

“Mae arweinyddiaeth Jo wedi bod yn hanfodol yn nhaith y Bwrdd Iechyd, ac mae cynnydd da wedi’i wneud yn ystod ei chyfnod ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, gan gynnwys lansio cynllun gwella ar draws Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, rhaglen frechu hynod lwyddiannus yn ystod y pandemig Covid-19 a nifer o ddatblygiadau ar draws y gwasanaethau i wella gofal cleifion,” meddai.

“Dydy ei chyfraniad i iechyd a lles pobol gogledd Cymru ddim bob amser yn amlwg o ystyried yr heriau mae’r Bwrdd Iechyd yn eu hwynebu, ond mae ei dull agored o ymgysylltu wedi ein galluogi ni i wthio ein hagenda drawsnewid yn ei blaen.

“Mae hi wedi canolbwyntio ar rymuso staff i wneud y newidiadau ac mae ei harweinyddiaeth wedi’i pharchu’n fawr iawn gan staff a phartneriaid.

“Mae ymddeoliad Jo yn golled i ni ond diolch i’w harweinyddiaeth, rydym mewn sefyllfa gryfach i wthio ein huchelgais o fod yn sefydliad perfformiad uchel yn ei blaen, gan ddarparu gofal ardderchog i bobol gogledd Cymru.

“Hoffwn ddiolch i Jo am ei hymroddiad i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol, i’n cymunedau lleol, ac i bobol gogledd Cymru.”

Teyrngedau eraill

Ymhlith y rhai sydd wedi talu teyrnged i Jo Whitehead mae Llŷr Gruffydd, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros ogledd Cymru.

“Diolch iddi am ei gwaith yn arwain y Bwrdd a thrueni na fydd hi’n cael y cyfle i gael y dylanwad roedd hi’n ei obeithio,” meddai.

Yn ôl Rhun ap Iorwerth, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Ynys Môn, mae ei hymddeoliad yn “ergyd” i fwrdd iechyd “sy’n wynebu heriau sylweddol”.

‘Mae angen trwsio Betsi’

“Rwy’n dymuno’r gorau i Jo Whitehead am ymddeoliad hir a hapus, ac yn diolch iddi am ei gwasanaeth i ogledd Cymru, yn enwedig yn ystod yr heriau ddaeth o ganlyniad i’r pandemig,” meddai Darren Millar, llefarydd gogledd Cymru’r Ceidwadwyr Cymreig.

“Prif Weithredwr nesaf Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr fydd eu seithfed mewn 13 o flynyddoedd. Mae’r drws hwn sy’n cylchdroi a’r newid cyson ar y brig yn dda i ddim ac yn afiach.

“Mae dirfawr angen arweinyddiaeth gref yn y tymor hir ar y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng ngogledd Cymru i oresgyn yr heriau parhaus mae’n eu hwynebu, a gwyrdroi gwasanaethau ffaeledig.

“Mae angen trwsio Betsi, a rhaid bod gan y Prif Weithredwr nesaf y gallu i gyflwyno newid a gwneud y penderfyniadau anodd mae gofyn amdanyn nhw heb gael eu llesteirio gan ymyrraeth wleidyddol gan weinidogion ym Mae Caerdydd.”