Mae cymuned Llanberis yn dathlu, wedi i gais cynllunio i droi safle Mynydd Gwefru yn faes parcio gael ei dynnu yn ôl.
Bydd yr adeilad, sy’n ganolfan ymwelwyr ar hyn o bryd, yn cael ei ddymchwel am nad yw’n ddiogel i’r cyhoedd.
Fodd bynnag, roedd ymateb chwyrn gan y gymuned pan gyhoeddodd cwmni engie, sy’n berchen ar y safle, gynlluniau i ddymchwel yr adeilad a throi’r safle’n faes parcio.
Wrth siarad â golwg360, mae cynghorydd ward Llanberis a Nant yn dweud ei bod hi’n “hapus iawn” fod engie wedi “bod yn fodlon cydweithio gyda ni”.
“Gwrando ar y gymuned”
“Rydan ni wedi bod cynnal cyfarfodydd cymunedol efo engie bron bob pythefnos,” meddai Kim Jones.
“Roedden ni eisiau i engie dynnu’r cais cynllunio [ar gyfer maes parcio] yn ôl.
“Doedd yna neb yn y gymuned eisiau maes parcio, mae gennym ni ddeg yn barod.
“Roedden ni eisiau iddo fod yn rhywbeth cymunedol.
“Rydan ni’n deall bod yr adeilad angen dod i lawr, dydi o ddim yn saff, ac mae hi’n fwy economaidd iddo ddod lawr ac ella adeiladu rhywbeth newydd.
“Felly mewn cyfarfod ddoe (Medi 31) fe ddaru engie gytuno i dynnu’r cais yn ôl, a’i bod nhw jyst yn mynd i adael tir gwair yna yn lle maes parcio tan maen nhw’n dod i benderfyniad ar rywbeth parhaol yna.
“Mae hynna yn newyddion da iawn i ni fel cymuned, eu bod nhw wedi gwrando ar y gymuned, wedi bod yn fodlon cydweithio gyda ni.
“Fe fyddan ni dal yn cynnal cyfarfodydd gydan nhw bob mis gan fod yna fusnesau eraill efo diddordeb yn y lle.
“Ond gan fod dim cynlluniau hir dymor ar hyn o bryd, maen nhw jyst yn mynd i roi gwair yna.
“Y peth mwyaf ydi ein bod ni ddim yn cael maes parcio.
“Roedd yna gymaint o wrthdaro, a chymaint o farnu ar engie pan ddaru nhw gyflwyno’r cais cynllunio gwreiddiol ac roeddwn i’n un ohonyn nhw.
“Roeddwn i’n meddwl: ‘O, cwmni masnachol sydd jyst isio maes parcio i wneud elw iddyn nhw eu hunain a dim byd yn dod i’r gymuned’.
“A chwarae teg, ei adeilad nhw ydi o, mi fysan nhw wedi gallu troi rownd dweud: ‘Rydan ni’n rhoi maes parcio yna a dyna fo, ni sy’n berchen ar y safle’.
“Ond fe ddaru nhw gydweithio gydan ni a dw i’n hapus iawn am hynny.”