Mae Jo Stevens yn dweud na fydd y Ceidwadwyr yn newid pwy bynnag ddaw’n Brif Weinidog y Deyrnas Unedig yr wythnos nesaf, wrth i’r ras rhwng Rishi Sunak a Liz Truss boethi ac yn dilyn honiadau damniol gan cyn-Ysgrifennydd Cymru.

Mewn llyfr newydd, Independent Nation: Should Wales Leave the UK?, dywed Alun Cairns fod y cyhoedd wedi cael eu camarwain gan y Ceidwadwyr i gredu na fyddai Cymru’n derbyn llai o arian ar ôl Brexit.

Yn y llyfr, dywed Alun Cairns nad oedd y Llywodraeth Geidwadol yn bwriadu i benderfyniadau ynghylch gwario’r arian a ddeuai yn lle arian Ewropeaidd gael eu gwneud yng Nghymru.

Pan ddywedodd y Ceidwadwyr na fyddai Cymru ar ei cholled, roedd rhai yn credu mai Llywodraeth Cymru fyddai’n penderfynu sut i wario’r arian ond daeth cadarnhad yn ddiweddar mai Llywodraeth San Steffan fyddai’n gwneud y penderfyniad hwnnw.

Mae Alun Cairns yn honni bod y Ceidwadwyr yn gwybod yn iawn beth oedd y sefyllfa ac yn ymwybodol o’r dryswch ond heb gymryd camau i egluro’r drefn.

“Pan ddaeth e i lawr ar gyfer dadl hystingau [cyn etholiad 2019], roedden ni’n ei friffio fe a dywedais i: ‘Fe gewch chi’r cwestiwn, am gymorth Ewropeaidd, [ac] yn y maniffesto rhaid i ni ymrwymo i’r ffaith na fydd yna geiniog yn llai,” meddai wrth ddyfynnu sgwrs gyda Boris Johnson.

“I ddyfynnu, dywedodd Boris wrtha i: ‘Rydyn ni eisiau rheoli hynny, on’d ydyn ni?’ a dywedais i: ‘Ydyn, ond allwch chi ddim dweud hynny… oherwydd fe fydd e wir yn tanio dadl wleidyddol yng Nghymru, oherwydd dydyn ni ddim eto wedi egluro’r ymrwymiad y cewch chi’r un arian ond y bydd e’n cael ei ganoli i raddau mwy na’r dull canolog gewch chi ar gyfer Llywodraeth Cymru’.

“Dywedais i wrth y Prif Weinidog: ‘Yr ateb mae’n rhaid i chi ei roi…’ – ac fe gadwodd e ato’n llwyr – ‘yw ein bod ni’n defnyddio egwyddorion Ceidwadol da o ran sut y dylid ei wario’.

“Ac os edrychwch chi’n ôl ar y dyfyniadau, dyna’n union ddywedodd e yn ei ateb.

“Wyddoch chi, wnaethon ni ddim ei wadu unwaith, ond doedden ni ddim wedi braeniaru’r tir er mwyn egluro.”

‘Allwch chi ddim credu’r un gair’

“Mae’r cyfaddefiad hwn yn profi unwaith eto na allwch chi gredu’r un gair mae gweinidogion Ceidwadol yn ei ddweud,” meddai Jo Stevens.

“Dro ar ôl tro, fe wnaeth Torïaid gan gynnwys Johnson, Cairns, [Simon] Hart a [David TC] Davies ailadrodd eu haddewid maniffesto na fyddai Cymru’n derbyn ceiniog yn llai o arian ôl-Undeb Ewropeaidd.

“Yn ogystal â thorri eu haddewid o “yr un ceiniog yn llai”, mae’r gath bellach allan o’r gwd eu bod nhw’n gwybod fod pobol yn credu y byddai’r arian yn mynd i Lywodraeth Cymru iddyn nhw benderfynu sut i’w wario, ac fe wnaethon nhw gelu’r ffaith na fyddai, yn fwriadol.

“Mae Truss a Sunak, ill dau, wedi bod yn rhan o’r twyll hwn gan y llywodraeth Dorïaidd.

“P’un bynnag ohonyn nhw ddaw’n Brif Weinidog yr wythnos nesaf, fyddan nhw ddim yn newid.

“Dim ond @UKLabour all gyflwyno’r newid dechrau o’r dechrau sydd ei angen ar y wlad.”