Mae protest yn erbyn y cynnydd mewn costau byw ddydd Gwener (Awst 26) wedi sbarduno protest wythnosol y tu allan i Swyddfeydd y Llywodraeth a’r Ofgem yng Nghaerdydd.

Daeth criw o tua 70 o bobol ynghyd ar gyfer protest Cynulliad y Bobl Caerdydd ar ôl i Ofgem gynyddu’r cap ar brisiau ynni o 80% i £3,549.

Roedd Adam Johannes, sylfaenydd a chydlynydd y grŵp yng Nghaerdydd, yn teimlo bod pobol “wedi’u tanio” yn y brotest gyntaf, ac felly’n teimlo bod angen parhau i alw am newid gyda’i gilydd.

Bydd Cynulliad y Bobl Caerdydd yn croesawu pobol i ymuno â nhw ar Stryd Wood ar Sgwâr Canolog y ddinas am 6 o’r gloch bob nos Wener.

Beth maen nhw’n galw amdano?

Trwy’r protestiadau wythnosol, mae Cynulliad y Bobl yn gobeithio y bydd y gair yn dechrau lledaenu mai dyma’r lle i fynd os yw pobol eisiau gweithredu a chyfarfod pobol eraill sydd eisiau helpu.

“Mae’n hawdd, pan ti’n stryglo, mewnoli a theimlo dy fod wedi gwneud rhywbeth yn anghywir,” meddai Adam Johannes wrth golwg360.

“Ond nid mater unigol ydy hyn. Mae hyn yn effeithio ar bob un ohonom ac nid ni greodd y problemau yma.

“Ond yn y pen draw, rydyn ni angen i gyflogau, pensiynau a budd-daliadau godi i gyd-fynd â’r cynnydd mewn costau byw, gan gynnwys isafswm cyflog o £15.

“Rydyn ni eisiau rheolaethau prisiau ar gyfer cwmnïau ynni, bwyd, tanwydd, tai a thrafnidiaeth fawr.

“Rydyn ni eisiau gwladoli sectorau allweddol o’r economi, fel nad ydyn nhw’n cael eu rhedeg ar gyfer elw, ond fel gwasanaeth cyhoeddus.

“Rydyn ni eisiau treth gyfoeth, achos rydyn ni’n gwybod bod yr arian yna gyda’r corfforaethau cyfoethog i helpu pobol.”

Wynebau newydd

Yn ôl Adam Johannes, roedd wynebau newydd ymysg y protestwyr nad oedd erioed wedi eu cyfarfod o’r blaen.

“Pan wyt ti’n trefnu protestiadau, ti’n gweld lot o wynebau cyfarwydd,” meddai.

“Ond roedd yna lot o bobol newydd sydd efallai heb fod yn ymwneud â gwleidyddiaeth o’r blaen oedd yn awyddus i weithredu ac eisiau gweld mwy yn digwydd.

“Doedden nhw ddim eisiau dod am un noson ac wedyn mynd adref.

“Mae’n teimlo’n apocalyptaidd ar y funud, o ran faint fydd ein biliau ni’n codi yn y flwyddyn newydd.

“Dw i’n meddwl bod pobol yn dechrau ofni ac yn dechrau cael y sgyrsiau… ‘Sut fyddwn ni’n goroesi’r gaeaf?’

“Mae’r syniad bod y Llywodraeth angen ymyrryd wedi troi’n fwy cyffredin a ddim mor radical.”