Mae trigolion yn y Bont-faen ym Mro Morgannwg yn ofni y gallai cynlluniau i adeiladu mwy na 100 o gartrefi gael effaith andwyol ar y dref.

Mae trigolion lleol wedi lleisio eu gwrthwynebiad i gynlluniau cwmni adeiladu Redrow i godi 105 o gartrefi ar dir rhwng Lôn Windmill a Heol Sain Tathan.

Prif bryderon y trigolion yw’r effaith weledol bosib y gallai’r tai eu cael, gyda’r ardal o’i chwmpas yn Nyffryn Ddawan Uchaf – Ardal Tirwedd Arbennig – a’r risgiau sy’n gysylltiedig â mynedfa arfaethedig y datblygiad ar Heol Sain Tathan.

Yn ôl CrashMap, sy’n defnyddio data sy’n cael ei goladu o’r Adran Drafnidiaeth, mae pum damwain wedi digwydd ar y troad hwn yn ystod y 23 mlynedd ddiwethaf.

Dywedodd un preswylydd, Mike Higgins: “Mae’r Bont-faen eisoes yn gweld datblygiad tai arall yn dechrau gyda Phentref Gardd Clare ar hyn o bryd yng ngham dau o’r gwaith adeiladu.

“Os ydych chi’n ychwanegu’r cyfan, rydych chi’n siarad am bron i 600 o gartrefi mewn tref oedd â 2,000 o’r blaen. Felly, mae hyn yn gynnydd o 30%. Mae’n ormod.

“Ni all capasiti’r dref ddelio â hyn. Mae parcio yn jôc. Allwch chi ddim mynd i lawr unrhyw un o ffyrdd y dref oherwydd y ceir sydd wedi’u parcio ym mhobman.”

“Mae hyn yn tagu’r harddwch a’r atyniad allan o’r dref.”

“Creu ffordd well i bobol fyw yn effeithlon”

Dywed datganiad dylunio sydd ynghlwm â’r cais cynllunio ar gyfer y 105 cartref newydd: “Mae’r datblygiad arfaethedig yn dod o fewn ffin y Bont-faen a bydd yn darparu ‘Gweledigaeth Redrow’ sef creu ffordd well i bobol fyw yn effeithlon, yn gyfrifol ac yn gynaliadwy a chyflwyno ffordd o fyw o ansawdd uchel drwy ganolbwyntio ar gynnyrch uwch mewn mannau gwych lle mae pobol eisiau byw, gweithio a mwynhau.”

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Bro Morgannwg mai’r dyddiad cau ar gyfer y cyfnod ymgynghori cyhoeddus yw dydd Gwener, 21 Hydref.