Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi beirniadu Cyngor Gwynedd am flaenoriaethu’r iaith Gymraeg dros y Saesneg.
Daw hyn wedi i’r cyngor gyhoeddi y bydd yn arddel enw Cymraeg yn unig mewn unrhyw ohebiaeth swyddogol o hyn allan.
Mae’r cam yn rhan o Bolisi Iaith Gymraeg newydd yr awdurdod, sydd yn ceisio sicrhau bod yr iaith yn cael ei blaenoriaethu o fewn pob elfen o waith y cyngor.
Bellach, fe fydd staff ond yn defnyddio ‘Cyngor Gwynedd’ yn hytrach na ‘Gwynedd Council’ wrth gyfeirio at y cyngor mewn dogfennau ysgrifenedig ac wrth hybu delwedd fasnachol y cyngor.
Cafodd y cyhoeddiad ei groesawu gan Gymdeithas yr Iaith, sy’n annog cynghorau eraill i fabwysiadu’r un polisi.
“Annog Cyngor Gwynedd i ailfeddwl”
Mewn datganiad uniaith Saesneg, dywedodd Sam Rowlands, Aelod o’r Senedd Ceidwadol Gogledd Cymru: “Ein nod bob amser ddylai fod i hyrwyddo’r Gymraeg trwy roi cydraddoldeb iddi gyda’r Saesneg, nid blaenoriaethu un iaith dros y llall.
“Mae’n ymddangos ym meddyliau rhai bod arwyddion gwaharddol yn dderbyniol cyn belled â bod siaradwyr Saesneg yn cael eu gwahardd.
“Mae angen i ni sicrhau ein bod ni’n parhau i fod yn genedl gynhwysol, o ystyried y ffaith bod 80% o’r boblogaeth yn siarad Saesneg yn unig.
“Byddwn yn annog Cyngor Gwynedd i ailfeddwl eu strategaeth ac i gadw’r polisi dwyieithrwydd yn ei le.”