Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru wedi dweud y byddai’r achos dros gynnal etholiad cyffredinol yn cael ei gryfhau pe bai’r Blaid Geidwadol yn disodli Liz Truss fel Prif Weinidog.

Wrth siarad ar raglen Newsnight y BBC, dywedodd Robert Buckland mai’r “amlaf mae’r Blaid Geidwadol yn newid arweinwyr, y cryfaf yw’r achos dros etholiad cyffredinol”.

Daw ei sylwadau wedi i gymeradwyaeth ar gyfer Llywodraeth y Deyrnas Unedig ddisgyn i’r lefel isaf erioed, sef 7% yn unig yn ôl pôl piniwn diweddaraf YouGov.

Ond rhybuddiodd Aelod Seneddol De Swindon fod y Ceidwadwyr yn wynebu colli’r rhan fwyaf o’u seddi mewn etholiad pe baen nhw’n cael gwared ar y Prif Weinidog.

“Gadewch i mi ddweud hyn. Yn fy marn i, yr amlaf mae’r Blaid Geidwadol yn newid arweinwyr, y cryfaf mae’r achos dros gynnal etholiad cyffredinol yn dod.

“Mae’r Blaid Lafur eisiau i’r Ceidwadwyr gnoi cil a newid arweinydd eto oherwydd eu bod yn credu mai dyna yw eu cyfle gorau o gael etholiad cynnar.

“Rwy’n dweud wrth fy nghydweithwyr, byddwch yn ofalus beth rydych yn dymuno amdano.

“Fyddai etholiad cynnar yn gwneud dim lles i neb, yn enwedig y Blaid Geidwadol ac yn sicr nid y wlad.”