Mae Plaid Cymru’n “hyderus o guro’r Torïaid” dan gynigion newydd ar gyfer ffiniau etholaethau Cymru, medd y blaid.

Bydd nifer y seddi Cymreig yn San Steffan yn gostwng o 40 i 32, ac mae gan etholwyr un cyfle olaf i roi eu barn ar etholaethau newydd.

Mae map diweddaraf y Comisiwn Ffiniau i Gymru wedi cael ei gyhoeddi heddiw (Hydref 19), ac mae’n cynnwys rhai newidiadau sy’n effeithio’n bennaf ar Y Barri a Chaerdydd.

Golyga rheolau newydd San Steffan y dylai pob etholaeth gynnwys rhwng 69,724 a 77,062 o bleidleiswyr cofrestredig, ac o ganlyniad bydd Lloegr yn cael 10 Aelod Seneddol ychwanegol a Chymru’n colli wyth.

‘Hyderus’

Er bod Plaid Cymru’n gwrthwynebu’r cwtogi, maen nhw’n “hyderus” y byddan nhw’n gallu curo’r Torïaid a chael mwy o Aelodau Seneddol yn San Steffan na’r Ceidwadwyr dan y cynlluniau hyn.

“Rydyn ni’n falch, diolch i gynrychiolaeth Plaid Cymru yng nghamau cynnar y broses, bod Ynys Môn yn cael ei gwarchod fel un etholaeth,” meddai llefarydd ar ran y blaid.

“Gall pobol Ynys Môn fod yn ffyddiog y bydd ganddyn nhw Aelod Seneddol lleol, ymroddedig yn Rhun ap Iorwerth, a fydd yn uno cymunedau ar ôl ennill ffydd pobol dros yr ynys dros sawl mlynedd.

“Mae cynghorwyr Plaid Cymru’n cynrychioli wardiau dros etholaeth arfaethedig Bangor-Aberconwy – yr holl ffordd o Fangor yn y gorllewin i Efenechtyd yn y dwyrain – gan gynrychioli’r dewis cliriaf i bleidleiswyr sy’n gobeithio cael gwared ar y Torïaid yn yr etholiad seneddol nesaf.

“Mae penderfyniad San Steffan i ostwng gymaint ar nifer yr etholaethau wedi gwneud hon yn broses anodd i’r Comisiwn Ffiniau, a hoffwn ddiolch iddyn nhw am eu gwaith.”

Fodd bynnag, mae Plaid Cymru wedi gwrthwynebu cynlluniau i gynnwys Cwm Tawe fel rhan o etholaeth wledig Brycheiniog a Maesyfed.

“Dydy gosod cymunedau ôl-ddiwydiannol fel Cwm Tawe gydag ardaloedd gwledig fel Brycheiniog a Maesyfed ddim yn gwneud synnwyr, ac mae’n amlygu hurtrwydd graddfa’r newidiadau sy’n cael eu gorfodi gan San Steffan.”

‘Cyfleoedd cyffrous’

Dywedodd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig bod y newidiadau am roi “rhai cyfleoedd cyffrous” i’r blaid.

“Er bod disgwyl i’r ymgynghoriad barhau am ychydig eto, dydyn ni ddim yn disgwyl gweld newidiadau mawr rhwng nawr a phan fydd llefarydd Tŷ’r Cyffredin yn arwyddo’r newidiadau,” meddai llefarydd ar ran y blaid.

“Dydy hi ddim yn eglur a fydd y ffiniau newydd yn eu lle mewn pryd ar gyfer yr Etholiad Cyffredinol, ond rydyn ni’n rhoi mecanwaith ar waith er mwyn dewis ein hymgeiswyr ar gyfer yr etholaethau newydd hyn.

“Gyda nifer Aelodau Seneddol Cymru’n gostwng o 40 i 32, mae hi hyd yn oed yn fwy hanfodol bod diwygiadau arfaethedig ar gyfer y Senedd yn digwydd a byddan ni’n parhau i wthio i ddatganoli mwy o bwerau i Senedd Cymru er mwyn sicrhau nad yw cael llai o lais yn San Steffan yn arwain at lai o bwyslais ar y materion sy’n bwysig i etholwyr Cymru.”

Newidiadau

Dan y cynigion newydd, bydd dinas Bangor i gyd yn cael ei chynnwys yn etholaeth Bangor Aberconwy, yn hytrach na bod ei hanner hi’n rhan o Ddwyfor Meirionnydd.

Bydd y cynigion ar gyfer etholaeth Alyn a Dyfrdwy yn cael eu newid i gynnwys Y Fflint, tra bod etholaeth Gorllewin Clwyd yn cynnwys rhannau o’r Delyn, Dyffryn Clwyd a Gorllewin Clwyd presennol, ynghyd â Rhuthun.

Roedd cynnig i gynnwys Y Barri fel rhan o etholaeth Y Barri, De Caerdydd a Phenarth, ond bellach mae cynnig iddi barhau’n rhan o Fro Morgannwg.

Yn hytrach nag etholaeth Canol Caerdydd, bydd Dwyrain Caerdydd nawr yn cynnwys ardal Trowbridge a bydd Chathays yn ymuno â De Caerdydd a Phenarth.

Mae Tyddewi wedi cael ei dynnu o’r etholaeth newydd Ceredigion Preseli a’i osod yn etholaeth Canol a De Sir Benfro, a Maenclochog wedi cael ei ychwanegu i Geredigion Preseli.

Mae newidiadau hefyd yn y cynigion ar gyfer Casnewydd, Caerffili, Pen-y-bont, Caerfyrddin ac Aberafan Porthcawl.

Cyhoeddi cynigion diwygiedig yn yr Adolygiad o Ffiniau Cymru

Mae’r ymgynghoriad terfynol ar etholaethau newydd Cymru yn agor