Mae Cyngor Gwynedd wedi rhybuddio bod sgil effeithiau argyfwng ariannol y Deyrnas Unedig yn ei daro gyda phŵer “tswnami”.

Mae’r casgliadau yn cael eu datgelu mewn adroddiad cyllid fydd yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet ar Hydref 25.

Mae’n disgrifio sut mae polisïau Llywodraeth y Deyrnas Unedig, yn ogystal â ffactorau ariannol ledled y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol wedi cael effaith “gatastroffig” ar Wynedd.

Mae’r materion yn cynnwys cyfradd chwyddiant o 11%, sy’n debygol o godi ymhellach yn y misoedd nesaf.

Bydd yr argyfwng costau byw hefyd yn golygu bod Gwynedd yn gwario tua £6 miliwn yn fwy ar wasanaethau digartrefedd eleni.

Fe allai tywydd garw a salwch y gaeaf hwn hefyd gael effaith.

Er bod y sefyllfa economaidd yn parhau’n aneglur, ac y gallai newid yn gyflym, mae’r adroddiad yn rhagweld y bydd Cyngor Gwynedd yn wynebu diffyg o £7.1 miliwn yn y flwyddyn ariannol hon (2022/23).

Ond yn waeth byth, mae’r cyngor yn dweud y gallai wynebu diffyg o £18.5m yn 2023/24 gan godi i ddiffyg o £22.3m yn 2024/25.

Mae’r cyngor wedi cyflwyno tri opsiwn i ostwng y diffyg:

  • Cynyddu treth y cyngor – bydd pob codiad treth y cyngor o 0.5% yn gostwng oddeutu £400,000 yn y diffyg;
  • Sicrhau arbedion ychwanegol mwy na’r £33.4 miliwn ers 2015;
  • Cyflwyno toriadau i wasanaethau, yn ogystal â chynyddu’r ffioedd mae’r cyngor yn codi ar drigolion am rai gwasanaethau.

Bydd yr opsiynau hynny yn cael eu hystyried dros y misoedd nesaf, gan arwain at gyfarfod llawn o’r cyngor ym mis Mawrth 2023 pan fydd y cyngor yn gosod ei chyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol 2023/24.

“Llwm”

Daw hyn wrth i arweinydd y Cyngor, Dyfrig Siencyn, rybuddio am doriadau “didostur” i swyddi, gwasanaethau hanfodol a threth wrth i’r cyngor geisio llenwi’r twll ariannol.

Yn ôl y Cynghorydd Dyfrig Siencyn, fe allai’r sefyllfa “ddigynsail” arwain at doriadau i wasanaethau fel addysg a gofal yr henoed.

“Yn amlwg rydyn ni’n mynd i wneud popeth o fewn ein gallu i amddiffyn ein trigolion rhag effeithiau hyn i gyd, ond rwy’n credu ei bod yn anochel bod yn rhaid i ni dorri’n ôl ar lawer o’n gwasanaethau sydd eisoes yn ei chael hi’n anodd,” meddai.

“Mae effaith hyn yn enfawr, mae wedi bod fel tswnami. Mae wedi bod yn gwbl ddigynsail.

“Mae cymaint wedi ein taro yn ystod yr argyfwng hwn, cyfraddau llog cynyddol, costau cynyddol a phopeth arall sy’n digwydd, ac nid dim ond y gyfradd ond y cyflymder y mae wedi’n taro ni, ac awdurdodau lleol eraill Cymru.

“Mae’n amhosib cynllunio ar gyfer hyn.”

Ychwanegodd Dyfrig Siencyn: “Dyma’r rhagolygon ariannol mwyaf llwm i mi eu gweld yn fy amser mewn llywodraeth leol.

“Mae’n anodd deall maint y diffyg, ac mae’n dod ar ddiwedd argyfwng Covid a degawd lle mae Cyngor Gwynedd eisoes wedi sicrhau arbedion ariannol enfawr.

“Prin y gallai’r amseru fod yn waeth.”

‘Dim dewis ond torri’n ôl’

Dywedodd pennaeth cyllid y Cyngor, Dewi Morgan “Rydyn ni wedi dod i mewn i’r sefyllfa mewn lle da, yn well na rhai o’r cynghorau eraill.

“Ond mae gwasanaethau addysg a gofal yr henoed ymhlith rhai o’n costau uchaf. Efallai nad oes gennym unrhyw ddewis ond torri’n ôl ymhellach, ond mewn gwirionedd does dim llawer o le i dorri’n ôl ar ein gwasanaethau.”