Mae’r Comisiwn Ffiniau i Gymru wedi cyhoeddi eu Cynigion Diwygiedig heddiw (dydd Mercher, Hydref 19) ar gyfer y map newydd o etholaethau seneddol a ddaw i rym yn yr etholiad cyffredinol arferol nesaf.
Yn ogystal â chyhoeddi eu cynigion, mae’r Comisiwn wedi agor cyfnod ymgynghori o bedair wythnos lle gall y cyhoedd rannu eu barn ar yr etholaethau arfaethedig.
O dan reolau’r Ddeddf Etholaethau Seneddol 1986 (fel y’i diwygiwyd), rhaid i’r holl etholaethau sy’n cael eu cynnig gan y Comisiwn Ffiniau i Gymru gynnwys rhwng 69,724 a 77,062 o etholwyr.
Yr unig eithriad i’r rheol hon yw Ynys Môn, sy’n etholaeth warchodedig, ac felly dydy hi ddim yn gweld unrhyw newidiadau i’w henw, ei dynodiad na’i ffiniau sydd yn y cynigion hyn.
Mae’r Cynigion Diwygiedig yn gweld newidiadau i’r mwyafrif o etholaethau a gafodd eu cynnig yn wreiddiol gan y Comisiwn fis Medi y llynedd, a chaiff newidiadau eu cynnig i bob etholaeth bresennol.
Cafodd y cynigion sydd newydd eu cyhoeddi eu creu yn dilyn dau ymgynghoriad ar wahân, a phum gwrandawiad cyhoeddus ers cyhoeddi Cynigion Cychwynnol y Comisiwn.
Adroddiad
Mae Adroddiad y Comisiynwyr Cynorthwyol wedi’i gyhoeddi ochr yn ochr â’r Cynigion Diwygiedig.
Roedd y Comisiynwyr Cynorthwyol yn gyfrifol am reoli gwrandawiadau cyhoeddus y Comisiwn a dadansoddi thystiolaeth a gafodd ei derbyn gan y Comisiwn cyn adrodd yn ôl i’r Comisiwn gyda’u hargymhellion eu hunain.
Ystyriodd y Comisiwn sawl ffactor wrth ddatblygu eu cynigion, yn ogystal â’r ystod statudol o etholwyr.
Roedd daearyddiaeth (fel llynnoedd, afonydd, a mynyddoedd) yn ystyriaeth bwysig, yn ogystal â ffiniau presennol megis ffiniau awdurdodau lleol a wardiau.
Bu’r Comisiwn hefyd yn ystyried cysylltiadau lleol, megis rhannu hanes a diwylliant wrth iddyn nhw ddatblygu eu cynigion cychwynnol.
Mae’r Comisiwn bellach yn gwahodd sylwadau ar y cynigion, wrth iddyn nhw lansio’u cyfnod ymgynghori pedair wythnos olaf, a chaiff aelodau’r cyhoedd eu hannog i anfon eu barn, p’un a ydyn nhw’n cefnogi neu’n gwrthwynebu’r cynigion.
Fodd bynnag, mae’r Comisiwn wedi datgan nad oes ganddyn nhw bŵer i bennu nifer yr aelodau seneddol, a gafodd ei benderfynu gan y Senedd, a fyddan nhw ddim yn gallu ystyried dadleuon ynghylch nifer yr etholaethau yng Nghymru.
Mae porth ymgynghori ar-lein yn cffg-arolygon.org.uk yn cynnwys y cynigion yn llawn, a gall aelodau’r cyhoedd gyflwyno eu barn yn uniongyrchol drwy’r porth.
Gall pobol hefyd gymryd rhan yn yr ymgynghoriad drwy anfon e-bost at cffg@ffiniau.cymru neu ysgrifennu at Y Comisiwn yn y post i Comisiwn Ffiniau i Gymru, Tŷ Hastings, Caerdydd, CF24 0BL.
Wrth ysgrifennu yn y rhagair i adroddiad y Cynigion Diwygiedig, dywedodd Dirprwy Gadeirydd y Comisiwn Mrs Ustus Jefford fod y Comisiwn wedi derbyn 1,367 o gynrychiolaethau ysgrifenedig ac 81 o gynrychiolaethau llafar ar y cynigion cychwynnol.
“Cynhaliwyd gwrandawiadau cyhoeddus ledled Cymru er mwyn galluogi aelodau’r cyhoedd i fynegi’u barnau ar y cynigion cychwynnol, ac i awgrymu sut gellid eu diwygio a’u gwella,” meddai.
“Mae’r Comisiwn yn hynod ddiolchgar i bawb a roddodd o’u hamser i gyfrannu. O ganlyniad, mae’r Comisiwn wedi diwygio’r cynigion cychwynnol.
“Mae wedi cynnig newidiadau, sy’n newidiadau sylweddol yn aml, i 22 o’r 32 o etholaethau arfaethedig. Mae hefyd wedi cynnig enwau gwahanol ar gyfer 9 o’r etholaethau.
“Mae cyfle nawr i wneud cynrychiolaethau ar y cynigion diwygiedig hyn cyn bod y Comisiwn yn llunio’i adroddiad terfynol ar etholaethau Seneddol arfaethedig yng Nghymru.”
Newidiadau – a newidiadau sylweddol
Wrth wneud sylw ar gyhoeddi’r cynigion Diwygiedig, dywed Shereen Williams, ysgrifennydd y Comisiwn Ffiniau i Gymru, ei bod hi’n “falch iawn o gyhoeddi’r cynigion hyn heddiw”.
“Pan gyhoeddodd y Comisiwn y Cynigion Cychwynnol ym mis Medi 2021, fe wnaethom ofyn am gymorth y cyhoedd i gryfhau’r map newydd o etholaethau Cymru,” meddai.
“Diolch i’r nifer uchaf erioed o ymatebion rydym wedi’u derbyn, rydym wedi gwneud newidiadau, mewn rhai achosion newidiadau sylweddol, i’r cynigion cychwynnol hynny.
“Mae un cyfle arall nawr i effeithio ar y map newydd o etholaethau Cymru, yn ystod ein cyfnod ymgynghori 4 wythnos olaf.
“Byddwn yn annog pawb, waeth beth fo’ch barn ar y cynigion, i roi gwybod i’r Comisiwn.”
Mae’r Trydydd Cyfnod Ymgynghori yn agor heddiw (dydd Mercher, Hydref 19), ac yn cau ar Dachwedd 15.
Yn dilyn y cyfnod ymgynghori, bydd y Comisiwn yn asesu’r cynrychiolaethau a gafodd eu derbyn ac yn cyflwyno Argymhellion Terfynol i’r Senedd fis Gorffennaf y flwyddyn nesaf.
Bydd yr Argymhellion Terfynol yn dod i rym yn awtomatig yn yr Etholiad Cyffredinol arferol nesaf.