Mae Adam Price, arweinydd Plaid Cymru, yn galw am gyflwyno ‘treth solidariaeth’ ar gyfer y bobol fwyaf cyfoethog er mwyn gwarchod gwasanaethau cyhoeddus ar gyfer pobol fwyaf bregus Cymru rhag polisi llymder Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

Daeth ei sylwadau wrth holi’r Prif Weinidog Mark Drakeford yn y Senedd.

Dywedodd ei bod hi ond yn iawn y dylid “gofyn i’r rheiny â’r ysgwyddau lletaf i ysgwyddo’r baich mwyaf”.

Wrth gyfeirio at sylwadau Rachel Reeves, Canghellor yr wrthblaid yn San Steffan, ar Radio 4 na fyddai Llafur yn codi trethi yn y tymor byr, fe wnaeth Adam Price gwestiynu o ble fyddai Llywodraeth Lafur yn San Steffan yn cael yr adnoddau “i warchod gwasanaethau cyhoeddus, i wneud rhywbeth am yr argyfwng yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yma yng Nghymru trwy fformiwla Barnett, a thalu cyflog da i weithwyr y sector cyhoeddus”.

Fe wnaeth Adam Price ofyn a fyddai’r prif weinidog yn ystyried defnyddio’r dreth incwm fel ffordd o godi ‘treth solidariaeth’ yng Nghymru i helpu i warchod pobol gyffredin sy’n gweithio rhag cyfres newydd o fesurau llymder o du’r Llywodraeth Geidwadol yn San Steffan.

Mae ‘treth solidariaeth’ eisoes ar waith yn Sbaen a’r Almaen.

‘Gwledydd sy’n wynebu argyfwng’

“Mae treth solidariaeth yn aml yn cael ei chyflwyno gan wledydd sy’n wynebu argyfwng,” meddai Adam Price.

“Nawr, yng nghanol argyfwng costau byw sydd wedi’i waethygu o dipyn gan Lywodraeth Dorïaidd yn San Steffan sy’n benderfynol o gosbi’r rhai tlotaf, rhaid i Lywodraeth Cymru weithredu er mwyn gwarchod ein rhai mwyaf bregus, gan ddefnyddio’r holl bwerau yn eu meddiant.

“Dyna pam ein bod ni’n galw am dreth solidariaeth sy’n gweithio ar sail yr egwyddor sosialaidd y dylai’r ysgwyddau lletaf ysgwyddo’r baich mwyaf.

“Mae Sbaen yn cyflwyno treth solidariaeth.

“Mae gan yr Almaen un yn barod.

“Yn yr amserau anodd hyn, mae’n rywbeth mae’n rhaid i ni ei ystyried nawr yng Nghymru.

“Yn wyneb cyfres newydd o fesurau llymder Torïaidd, mae’n iawn y dylai pobol Cymru allu edrych tuag at eu llywodraeth i’w gwarchod nhw.

“Mae gan Lywodraeth Cymru y grym i weithredu er mwyn gwarchod ein rhai mwyaf bregus rhag effeithiau gwaetha’r argyfwng costau byw – dylen nhw ddefnyddio’r grymoedd hynny heb ragor o oedi.”