Mae cyn-bêldroediwr oedd wedi chwarae i Abertawe a Chaerdydd yn ystod ei yrfa, yn un o 14 o bobol sydd wedi cael eu carcharu am droseddau’n ymwneud â chyffuriau.

Rhyngddyn nhw, mae’r criw wedi’u dedfrydu i 140 o flynyddoedd dan glo am fod yn rhan o rwydwaith oedd wedi bod yn cyflenwi cyffuriau.

Daw hyn yn dilyn ymchwiliad gan Tarian, uned sy’n ymchwilio i dorcyfraith yn ne Cymru.

Mae Layton Maxwell yn 43 oed ac yn dod o Riwbeina, ac mae wedi’i ddedfrydu i wyth mlynedd o garchar.

Y rhai eraill sydd wedi’u carcharu yw:

  • Daniel Masher, 33, o Lerpwl (18 mlynedd)
  • Martin Askew, 53, o Birmingham (14 mlynedd a phum mis)
  • Lloyd Stapleton, 35, o’r Rhath yng Nghaerdydd (14 mlynedd a phum mis)
  • Anthony Rake, 31, o Grangetown yng Nghaerdydd (13 mlynedd)
  • Jamie Crees, 38, o Bentwyn yng Nghaerdydd (12 mlynedd a phum mis)
  • Paul Beard, 38, o Bentwyn yng Nghaerdydd (12 mlynedd)
  • Glyn Roberts, 42, o Gasnewydd (10 mlynedd)
  • Dylan Bulmer, 27, o Bentwyn yng Nghaerdydd (wyth mlynedd ac wyth mis)
  • Kevin Jenkins, 41, o Bontypridd (saith mlynedd a phum mis)
  • Rafeeq Kaid, 32, o Benylan yng Nghaerdydd (chwe mlynedd)
  • Charles Lado, 36, o Gaerdydd (chwe mlynedd)
  • Daniel Roberts, 38, o Bontllanfraith (chwe mlynedd)
  • Richard Smith, 46, o Gaerdydd (pedair blynedd a phum mis)

Cefndir

Cafodd yr heddlu becynnau o ddata o Encrochat, system negeseuon preifat, gan yr Asiantaeth Torcyfraith Genedlaethol, ac fe lwyddon nhw i adnabod y defnyddwyr anhysbys ac mae’r data wedi’i ddefnyddio yn yr achos llys fel tystiolaeth yn eu herbyn nhw.

Roedd y grŵp o droseddwyr yn gweithredu’n bennaf yng Nghymru, ond roedd ganddyn nhw gysylltiadau â Lerpwl hefyd, a dyna lle’r oedd y cyffuriau’n dod.

Fe wnaeth y grŵp drefnu i ddosbarthu cocên a heroin ac i gasglu symiau mawr o arian am werthu’r cyffuriau.

Cafwyd hyd i fwy na 50kg o heroin a chocên a thros £700,000 fel rhan o’r ymchwilad, a chafwyd pob un o’r 14 o bobol yn euog yn gynharach eleni.

Cawson nhw eu dedfrydu yn Llys y Goron Caerdydd yr wythnos hon am eu rhan yn y cynllwyn i gyflenwi cyffuriau a gwyngalchu arian.