Mae ffrae danllyd wedi codi rhwng y Prif Weinidog Mark Drakeford ac Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, yn ystod dadl yn y Senedd am y Gwasanaeth Ambiwlans.
Roedd Andrew RT Davies wedi codi cwestiynau am y gwasanaeth, gan gyhuddo’r prif weinidog o osgoi ateb cwestiynau ynghylch pa gamau mae Llywodraeth Cymru’n bwriadu eu cymryd i leddfu’r pwysau ar y gwasanaeth ac i adael iddyn nhw wneud eu gwaith.
Wrth ymateb, roedd llaw Mark Drakeford i’w gweld yn crynu wrth iddo ymosod ar Lywodraeth Geidwadol y Deyrnas Unedig a’u hymateb nhw i bwysau ar y gwasanaeth iechyd ar draws y Deyrnas Unedig.
Y cwestiwn
“Dydych chi ddim wedi dweud unwaith wrth ymateb i fy nau gwestiwn, beth yw’r ateb mae’r llywodraeth yn ei gynnig i dynnu’r pwysau hyn oddi ar y gwasanaeth ambiwlans a’u galluogi nhw i fwrw ymlaen â’r gwaith maen nhw’n ei wneud, sy’n waith gwych pan fo’n gweithio’n iawn,” meddai Andrew RT Davies.
“Nawr, yr hyn dw i eisiau gadael y Siambr yma’n ei ddeall yw beth yw’r map ffordd gan Lywodraeth Cymru, wrth i ni fynd ymhellach i mewn i fisoedd y gaeaf, i leddfu’r problemau hyn, fel na fydd Aneurin Bevan yn troi yn ei fedd, bod gan y llywodraeth sydd yn atebol am y gwasanaeth iechyd ateb i’r problemau.”
Yr ateb
“Mae’n syfrdanol,” meddai Mark Drakeford wrth ymateb.
“Mae’n hollol syfrdanol i fi, ond byddwch chi’n meddwl eich bod chi’n gallu troi i fyny yma y prynhawn yma gyda’r llanast mae eich plaid chi wedi’i wneud i gyllidebau’r wlad hon, i enw da’r wlad hon o amgylch y byd.
“Ydych chi’n meddwl eich bod chi’n gallu troi i fyny yma y prynhawn yma a hawlio rhyw fath o dir uchel moesol?
“Pa fath o fyd ydych chi’n perthyn iddo?”
Tawelu’r Siambr
Yn dilyn y ffrae, camodd y Llywydd Elin Jones i mewn i dawelu gwleidyddion ar bob ochr, cyn i Adam Price, arweinydd Plaid Cymru, gael cyfle i ymateb.
“Rwy’n deall bod y dadleuon a’r teimladau’n danllyd ar y materion yma o amrywiaeth o safbwyntiau,” meddai.
“Rwy’n deall peth o’r gweiddi sy’n digwydd, ond fydda i ddim yn derbyn pobol yn pwyntio’n grac ac yn gwneud ystumiau’n grac at bobol eraill.
“Allwn ni jyst cymryd eiliad i bwyllo?”
Ymateb y Ceidwadwyr Cymreig
Ar ôl y ddadl, mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi beirniadu Mark Drakeford am ddiffyg ymddiheuriad, atebolrwydd ac atebion i’r sefyllfa.
Mae’r blaid yn dweud bod nifer sylweddol o bobol wedi bod yn aros am gyfnodau hir am ambiwlans dros y penwythnos.
Yn eu plith roedd Keith Morris, cyn-löwr 79 oed o Ferthyr Tudful ac un o arwyr Aberfan, oedd yn gorwedd ar lawr ei gegin am 15 awr cyn i ambiwlans ei gyrraedd.
Mewn digwyddiad arall, cafodd Ben Symons, dyn 22 oed o Gefn Cribwr ger Pen-y-bont ar Ogwr, anafiadau i’w gefn a’i wddf wrth chwarae pêl-droed yr wythnos ddiwethaf, ac fe fu’n aros bron i bum awr yn y glaw am ambiwlans.
Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn dweud bod Mark Drakeford mewn “ffit o ddicter” yn ystod y sesiwn.
“Dw i wedi gweld y Prif Weinidog yn ceisio osgoi cyfrifoldeb am ei fethiannau, ond dw i erioed wedi gweld y fath ddiffyg edifeirwch cywilyddus,” meddai Andrew RT Davies.
“Yn hytrach na chymryd cyfrifoldeb am reolaeth wael Llafur o’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol, fe geisiodd Mark Drakeford drosglwyddo’r bai i Lywodraeth y Deyrnas Unedig, er gwaetha’r ffaith fod Iechyd yng Nghymru wedi bod o dan reolaeth Llafur ers 25 mlynedd.
“Y ffaith o hyd yw mai Llywodraeth Lafur Cymru yw’r unig lywodraeth erioed i dorri cyllideb y Gwasanaeth Iechyd, ffaith nad yw’n gallu cuddio rhagddi, dim ots pa mor galed mae’n ceisio na pha mor uchel mae’n gweiddi.
“Mae arno fe ddyled i bobol Cymru i ymddiheuro am ei fethiannau, cymryd cyfrifoldeb a rhoi map ffordd allan o’r llanast mae Llafur wedi gadael y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru ynddo.”
Mae ffigurau’n dangos nad yw’r llywodraeth wedi cyrraedd eu targedau o ran amserau aros ar gyfer galwadau coch – y rhai mwyaf difrifol – ers dros ddwy flynedd.
Y targed yw y dylid ateb 65% o alwadau coch o fewn wyth munud, ond dim ond 50.7% o alwadau o’r fath gafodd eu hateb o fewn yr amser targed.