Mae cadeirydd corff llywodraeth leol yn Seland Newydd yn rhybuddio y gallai gymryd cryn amser i sicrhau bod y gymuned Māori yn pleidleisio mewn etholiadau.
Yn ôl Bonita Bingham, cadeirydd grŵp llywodraeth leol Te Maruata Māori, fe allai gymryd sawl etholiad i gynyddu’r nifer sy’n bwrw eu pleidlais pan ddaw’r cyfle, meddai Waatea News.
Cafodd ei hethol yn unfrydol yn ddiweddar mewn etholaeth Māori newydd ar Gyngor Rhanbarthol Taranaki, ac mae’n dweud y gallai creu mwy o wardiau lle mai’r Māori yw trwch y boblogaeth arwain at wella’r ffordd mae arferion pleidleisio’r Māori yn cael eu mesur.
Ond mae un broblem sylfaenol o hyd, meddai, sef y ffordd mae’r gymuned wedi cael ei thrin ar hyd y blynyddoedd, a dydy hi ddim yn disgwyl i hynny gael ei ddatrys dros nos.
“Y ffocws cyn yr etholiad wastad oedd cael ein hymgeiswyr ymlaen, cael y wardiau Māori drwy’r cyngor ac ati,” meddai.
“Fe wnaethon ni gyflawni’n rhagorol yn y kaupapa (polisi) hwnnw, ac rwy’n falch iawn o’n pobol am hynny.
“Dechrau’r daith yn unig yw hyn.
“Mae’n fater o ymgysylltu â’n pobol mewn ffordd wahanol ac fe allai hynny gymryd mwy nag un cylch etholiad, fe allai gymryd dau neu dri cylch etholiad eto, ac ymgysylltu â’n rangatahi (ieuenctid) wrth iddyn nhw ddod drwodd.”