Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru’n galw am newidiadau radical yn y modd mae pobol sy’n gaeth i gyffuriau’n cael eu trin.

Daw hyn yn sgil cyhoeddi adroddiad gan Iechyd Cyhoeddus Cymru sy’n nodi bod marwolaethau o ganlyniad i gyffuriau wedi cyrraedd eu lefel uchaf erioed yn y wlad.

Yn ôl y ffigurau, roedd 210 o farwolaethau yn 2021, o gymharu â 149 yn 2020, sy’n gynnydd o 41%.

Mae nifer y marwolaethau o ganlyniad i gymryd cocên hefyd wedi dyblu dros y bum mlynedd ddiwethaf, y ffigwr uchaf erioed ers i gofnodion ddechrau yn 1993.

Y nifer fwyaf cyn hyn oedd 208 yn 2018.

Roedd nifer y marwolaethau ym mhob miliwn o’r boblogaeth yn uwch yng Nghymru na Lloegr, gyda chynnydd llai o lawer mewn marwolaethau yn Lloegr na Chymru.

Dysgu gwersi

Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru’n galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i ddysgu gwersi o brofiadau gwledydd fel Portiwgal a sefydliadau megis y Cenhedloedd Unedig wrth ddatblygu polisïau i geisio lleihau nifer y marwolaethau o ganlyniad i gyffuriau, neu wrth ddatganoli cyfiawnder er mwyn i’r Senedd gael gweithredu trwy ddeddfu.

Maen nhw hefyd yn galw am sefydlu gofodau diogel i gael cymryd cyffuriau, ac mae gan Lywodraeth Cymru y pwerau i wneud hynny eisoes.

“Mae pob marwolaeth sy’n cael ei hachosi gan gyffuriau’n drasiedi, ac mae’n arwain at rywun yn colli rhiant, plentyn, ffrind, brawd neu chwaer,” meddai Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru.

“Yr hyn sy’n ei gwneud yn fwy o drasiedi ydi bod modd osgoi’r rhan fwyaf o farwolaethau sy’n cael eu hachosi gan gyffuriau.

“Mae bod yn gaeth i gyffuriau’n gyflwr iechyd, a dylid ei drin felly.

“Rydyn ni eisiau gweld dull mwy cyfannol ar gyfer y rhai sy’n cael eu riportio am droseddau cyffuriau, gan drin troseddau fel mater iechyd cyhoeddus yn hytrach nag un troseddol, gan ddysgu o arfer rhyngwladol da megis yr hyn sydd yn digwydd ym Mhortiwgal.

“Bydd hyn yn gweld pobol sy’n cael eu dal â chyffuriau yn eu meddiant at ddefnydd personol yn cael eu cyfeirio at addysg, triniaeth ac adferiad, gan atal carcharu yn yr amgylchiadau hyn.

“Mae’n amlwg o’r ffigurau hyn heddiw nad yw dull presennol Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn arwain at y canlyniadau rydyn ni eisiau eu gweld.

“Rhaid i’r Ceidwadwyr ddatblygu dull mwy blaengar tuag at fod yn gaeth i gyffuriau neu ddatganoli’r Ddeddf Camddefnyddio Cyffuriau i Gymru er mwyn rhoi’r hawl i’r Senedd wneud hynny.”