Mae cyngor sir wedi cael eu canmol gan ymgyrchwyr am gymryd camau i flaenoriaethu’r Gymraeg.
Yn ddiweddar, mae Cyngor Gwynedd, fydd yn cael ei adnabod fwyfwy wrth yr enw uniaith Gymraeg o hyn ymlaen, wedi mabwysiadu Polisi Iaith Gymraeg.
Yn rhan o’r polisi, fe fydd staff ond yn defnyddio’r enw Cymraeg ‘Cyngor Gwynedd’ wrth gyfeirio at y cyngor yn ysgrifenedig ac fel rhan o’i ddelwedd corfforaethol.
Nod y newid yw sicrhau y bydd y Gymraeg yn parhau i gael ei blaenoriaethu ym mhob agwedd ar waith y cyngor sir.
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi croesawu’r newid, ac maen nhw bellach yn annog cynghorau eraill i ddilyn eu hesiampl, gan gynnwys Cyngor Sir Ynys Môn sydd, medden nhw, wedi gosod arwyddion uniaith Saesneg yn ddiweddar.
Fe wnaeth Cyngor Gwynedd fabwysiadu polisi tebyg i’r un newydd yn 2016, gan newid y ffordd yr aeth y Cyngor ati yn eu gweithrediadau a’u gwasanaethau.
Dywed y Cyngor mai eu nod yw “blaenoriaethu’r Gymraeg” er mwyn “sicrhau cyfleoedd i’r cyhoedd ddefnyddio gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg” ym mhob adran.
Dywed y Cyngor eu bod nhw’n bodloni gofynion cenedlaethol, y byddan nhw’n cryfhau’r arweiniad i’w staff, ac y bydd y newidiadau’n digwydd yn raddol a dim ond pan fydd angen diweddaru ac adnewyddu nwyddau, arwyddion ac ati er mwyn osgoi costau ychwanegol.
Fe fyddan nhw hefyd yn “blaenoriaethu” gwarchod enwau llefydd Cymraeg ac yn sicrhau arweiniad cryf i staff o ran cynnig gwasanaeth digidol dwyieithog, er mwyn sicrhau y gall y cyhoedd barhau i ddefnyddio’r Gymraeg sut bynnag maen nhw’n dymuno cysylltu â’r C0yngor.
‘Rhywbeth i ymfalchïo ynddo’
“Mae ymrwymiad Cyngor Gwynedd i’r iaith Gymraeg, ac i sicrhau ei bod hi’n iaith sy’n cael ei defnyddio ym mhob agwedd ar fywyd, yn rywbeth i ymfalchïo ynddo,” meddai Menna Jones, yr Aelod Cabinet ar Gyngor Gwynedd sydd â chyfrifoldeb am yr iaith.
“Ers ei sefydlu yn 1996, mae Cyngor Gwynedd wedi bod ar flaen y gad yn nhermau ei ddefnydd o’r iaith yn y gweithle a sicrhau bod trigolion bob amser yn derbyn gwasanaethau cyfrwng Cymraeg.
“Ar lawer ystyr, mae’r Cyngor wedi mynd y tu hwnt i’n gofyniad statudol erioed drwy ddarparu gwasanaethau cyfrwng Cymraeg i bobol leol ac wrth hyrwyddo’r iaith ar bob cyfle posib.
“Mae’r polisi hwn yn adeiladu ar y seiliau cadarn hynny ac yn adlewyrchu’r newidiadau yn y gymdeithas a thechnoleg.
“Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at weld y cynnydd fydd yn cael ei wneud dros y misoedd a’r blynyddoedd i ddod.”
‘Esiampl i gynghorau a sefydliadau eraill’
“Mae Cyngor Gwynedd wedi bod yn gweithio’n bennaf drwy gyfrwng y Gymraeg ers blynyddoedd, ac mae’n esiampl i gynghorau a sefydliadau eraill,” meddai Cymdeithas yr Iaith.
“Mae’r awdurdod wedi deall ers y dechrau mai’r lleiafswm yw’r safonau, ac yn seiliau i adeiladu arnyn nhw.
“Does dim byd sy’n atal sefydliadau eraill rhag llunio polisïau iaith tebyg er mwyn adeiladu ar y safonau mewn ymgais i ateb disgwyliadau pobol ac felly, i hyrwyddo a hwyluso defnydd ehangach o’r iaith Gymraeg.
“Mae’n fater o dristwch mawr fod nifer o sefydliadau eraill, flynyddoedd ar ôl cyflwyno’r safonau, yn dal i’w trin nhw fel targedau a hyd yn oed yn brolio eu bod nhw’n bodloni’r isafswm o ran gofynion statudol yn nhermau’r iaith Gymraeg.
“Mae cynghorau eraill, megis Ynys Môn, wedi gosod arwyddion ffordd ag enwau Saesneg nad oedden nhw’n bodoli tan yn ddiweddar.
“Gallai Cyngor Ceredigion, sydd wedi addo symud i weithio trwy gyfrwng y Gymraeg ers blynyddoedd ond sydd yn dal heb wneud hynny, ddilyn esiampl Cyngor Gwynedd.”