Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri’n gwahodd amaethwyr a rheolwyr tir i fanteisio ar gynllun newydd i godi terfynau traddodiadol yng nghefn gwlad Eryri.

Mae terfynau traddodiadol yn rhan annatod o dirlun Eryri a thu hwnt – yn waliau cerrig sych a gwrychoedd, i ffensys crawiau prinnach yr ardaloedd llechi.

Yn ogystal â chyflawni swyddogaeth ymarferol, mae’r terfynau hyn yn hynod bwysig i fywyd gwyllt a’r amgylchedd hefyd.

Mae terfynau traddodiadol o garreg neu wrych yn cynnig cysgod i anifeiliaid rhag tywydd eithafol y gaeaf, neu haul tanbaid yr haf, tra eu bod nhw ar yr un pryd yn darparu cynefin i fywyd gwyllt.

Mae waliau cerrig a gwrychoedd yn cynnig lloches ddiogel i greaduriaid bychain, a hefyd yn darparu rhwydwaith o goridorau diogel iddyn nhw grwydro o un lle i’r llall.

Mae gwrychoedd yn arbennig o fuddiol i fioamrywiaeth a’r amgylchedd fel ei gilydd, yn darparu ffynhonnell fwyd i fwyd gwyllt, ac maen nhw hefyd o fudd i’r amgylchedd gan eu bod yn gwella ansawdd yr aer, yn storio carbon ac yn lliniaru effaith glaw trwm trwy arafu treiddiant dŵr.

O ganlyniad i nawdd trwy gynllun ‘Tirweddau Cynaliadwy, Lleoedd Cynaliadwy’ Llywodraeth Cymru, mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn cynnig cymorth ariannol i reolwyr tir i adfer terfynau traddodiadol ar eu tiroedd.

Cynllun gwerth £130,000 yw prosiect Terfynau Traddodiadol Eryri, gyda’r arian yn cael ei wasgaru dros gyfnod o dair blynedd.

Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu dethol trwy ddefnyddio cyfres o feini prawf, gyda’r flaenoriaeth yn cael ei rhoi i derfynau ‘byw’ fel gwrychoedd am eu gwerth uwch i’r amgylchedd.

“Dyma gynllun arbennig fydd o fudd i reolwyr tir a’r amgylchedd, yn ogystal ag economi cefn gwlad yn ehangach trwy ddarparu cyfleoedd gwaith i gontractwyr lleol,” meddai Rhys Owen, Pennaeth Cadwraeth, Coed ac Amaeth Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.

“Bydd y cynllun yn rhedeg am gyfnod o dair blynedd, gyda’r ffenestr gyntaf ar gyfer mynegi diddordeb ar agor yn awr.”

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn mynegiadau o ddiddordeb yw Tachwedd 5.