Mae Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Ddwyfor Meirionnydd wedi mynegi pryderon am ddyfodol siopau pysgod a sglodion Cymru yn sgil yr argyfwng costau byw.
Yn ôl Mabon ap Gwynfor, mae angen cefnogi busnesau lleol o’r fath a rhoi cymorth iddyn nhw oresgyn effeithiau’r argyfwng, prisiau ynni cynyddol, problemau gyda’r gadwyn gyflenwi a chostau olew.
Daw ei sylwadau ar ôl iddo ymweld â bwyty pysgod a sglodion Paddy’s Plaice yng Nghricieth er mwyn clywed am yr heriau sy’n wynebu un o’r sectorau bwyd mwyaf traddodiadol ar y stryd fawr, a gobaith y sector y bydd cynnyrch o ansawdd a phrisiau cystadleuol yn helpu i gynnal y diwydiant.
Mae prisiau ynni uchel a’r rhyfel yn Wcráin yn cael effaith sylweddol ar y sector ac ar hyn o bryd, gan fod y Deyrnas Unedig yn mewnforio llawer iawn o bysgod gwyn o Rwsia ac olew blodau haul o gaeau yn Wcráin, gyda chyflenwadau wedi’u taro gan y rhyfel parhaus.
Mae siopau pysgod a sglodion yn gobeithio y bydd yr hyn sydd ganddyn nhw i’w gynnig i gwsmeriaid – bwyd blasus, syml ynghyd â phrisiau cystadleuol – yn helpu’r sector i oroesi’r cyfnod heriol yma.
‘Sefyllfa arbennig o enbyd’
“Mae’r siop pysgod a sglodion Cymreig traddodiadol, fel sawl un arall yn y sector lletygarwch, yn wynebu sefyllfa arbennig o enbyd,” meddai Mabon ap Gwynfor.
“Mae eu costau wedi cynyddu’n aruthrol, ond eto ni allant basio’r holl gynnydd hynny ymlaen i’w cwsmeriaid.
“Mae siopau sglodion yn defnyddwyr trwm o ynni, gyda sawl eitem megis peiriannau ffrio yn cael eu defnyddio’n gyson i baratoi bwyd.
“Mae costau cynyddol ynni’n rhoi pwysau enfawr ar y sector, gyda nifer bellach yn ystyried eu dyfodol.
“Rydym yn dyst i ddirywiad posib sefydliad Cymreig a phryd o fwyd teuluol fforddiadwy.
“Mae’r argyfwng costau byw yn bygwth un o’n hoff brydau bwyd teuluoedd ynghyd a goroesiad busnesau pysgod a sglodion teuluol sy’n gweithio’n galed ledled y wlad.
“Hyd yma, nid yw Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi gwneud unrhyw beth i helpu i warchod busnesau rhag yr argyfwng costau byw digynsail hwn.
“Yr hyn y dylem fod yn ei weld yw ymrwymiad llawer cliriach i ddiogelu aelwydydd a busnesau rhag yr argyfwng presennol.
“Mae siopau bach y stryd fawr fel y siop pysgod a sglodion leol yn dioddef yn enbyd yn sgil yr argyfwng yma.
“Mae’n ddyletswydd ar lywodraethau San Steffan a Chymru i wneud popeth o fewn eu gallu i warchod busnesau rhag y gwaethaf yn yr argyfwng hwn.
“Hyd yma, ychydig iawn o help sydd wedi ei roi.
“Mae gan Lywodraeth Cymru y gallu i amrywio trethi ychydig, a dylen ni fod yn defnyddio’r pwerau hynny i gasglu arian i Drysorlys Cymru er mwyn helpu’r rhai sydd fwyaf mewn angen a lliniaru yn erbyn y gwaethaf o’r argyfwng y gaeaf hwn.
“Fel cenedl sy’n hoff iawn o bysgod a sglodion, rhaid i ni hefyd chwarae ein rhan a chefnogi ein siop sglodion lleol lle bynnag y gallwn, fel ei bod yn parhau i fod yn un o’n prydau mwyaf poblogaidd am genedlaethau i ddod.”
‘Profiad bwyd gorau am y prisiau mwyaf cystadleuol’
“Does dim gwadu bod y sector pysgod a sglodion yn wynebu amser anodd iawn ar hyn o bryd, ond yn Paddy’s Plaice, Criccieth rydym yn ymfalchïo yn y profiad bwyd gorau am y prisiau mwyaf cystadleuol,” meddai Patrick Watson o Paddy’s Plaice yng Nghricieth.
“Mae ein tatws yn dod o Ben Llŷn, ac mae ein deunydd pacio ni i gyd yn dda i’r amgylchedd – felly rydym yn cefnogi’r gymuned leol a’r blaned yr un pryd.
“Hoffem ehangu ein harlwy unwaith bod yr amgylchiadau’n fwy ffafriol fel bod mwy o bobl yn gallu mwynhau’r hyn sydd gennym i’w gynnig.
“Ond y gwir yw bod angen help ar fusnesau bach, a gobeithio y bydd Llywodraethau’r Deyrnas Unedig a Chymru yn camu i’r adwy er mwyn cefnogi’r rheiny sy’n wynebu amgylchiadau mor anodd.”