Mae mudiad annibyniaeth Catalwnia wedi colli momentwm, yn ôl academydd blaenllaw o Brifysgol Barcelona.

Dywed Ernesto Pascual, sy’n ddarlithydd mewn gwyddorau gwleidyddol, fod sefyllfa’r llywodraeth, oedd wedi dymchwel ar Hydref 7, yn golygu bod dyfodol gwleidyddol Catalwnia’n ansicr ar ôl i Junts per Catalunya benderfynu gadael y llywodraeth.

“Mae’r momentwm yn amlwg wedi mynd,” meddai wrth y wefan Catalan News.

“Yn boenus neu beidio, y gwir yw y bu sawl cyfnod ar y ffordd tuag at annibyniaeth.”

Mae’n dweud bod dyddiau’r refferendwm yn 2017, a gafodd ei ystyried yn anghyfansoddiadol gan Sbaen, wedi hen fynd a bod hynny’n “boenus iawn i’r holl bobol oedd yn gobeithio’n fawr o ran y syniad o Gatalwnia annibynnol”.

Dywed na fydd annibyniaeth yn digwydd yn y tymor byr, gan fod angen ailadeiladu’r mudiad “er mwyn bod yn brosiect gwell”.

Serch hynny, mae’n dadlau nad y llywodraeth yn cael ei dymchwel yw’r rheswm pam fod y mudiad wedi methu hyd yn hyn, a bod angen “rheoli” siom y bobol.

Ers y dechrau, mae pleidiau Esquerra a’r CUP wedi gwthio am ddulliau mwy uniongyrchol o sicrhau annibyniaeth, mae Junts per Catalunya wedi ffafrio ymgyrchu mwy tawel a “phragmataidd”, meddai.

Ond mae hyn wedi newid ychydig yn ddiweddar, gydag Esquerra yn dod yn fwy pragmataidd, a Junts wedi dod yn fwy ymosodol yn eu dulliau.

Anghydweld

Yn dilyn anghydweld yn y llywodraeth, penderfynodd Junts per Catalunya adael y llywodraeth glymblaid ar ôl i’r Arlywydd Pere Aragonès ddiswyddo’i ddirprwy Jordi Puigneró.

Yn ôl Ernesto Pascual, does gan Gatalwnia ddim traddodiad o lywodraethau lleiafrifol, ac felly mae hynny’n achosi rhagor o ansicrwydd ac mae angen mwy o gydweithio rhwng y pleidiau er mwyn sicrhau llwyddiant.

Mae Pere Aragonès wedi penodi gweinidogion o wahanol gefndiroedd gwleidyddol i’r perwyl hwnnw, ond yn ôl Ernesto Pascual, mae hynny’n golygu bod “y momentwm ar gyfer annibyniaeth wedi mynd”.

Un o’r heriau mwyaf sy’n wynebu’r llywodraeth ar hyn o bryd yw’r gyllideb y flwyddyn nesaf – dim ond 33 allan o 135 o seddi sydd gan Esquerra, felly bydd angen cydsyniad y pleidiau eraill er mwyn ei phasio.

Ond fyddai methiant y gyllideb ddim yn broblem fawr, meddai Ernesto Pascual, sy’n dadlau nad dyma fyddai’r tro cyntaf i gyllideb fethu cyn i’r llywodraeth fynd yn ei blaen i fod yn llwyddiannus.

Y broblem fwyaf i’r mudiad annibyniaeth fyddai etholiadau cyffredinol 2023, gan y gallai fod ar ben ar y mudiad annibyniaeth pe bai pleidiau Vox a Phlaid y Bobol yn cipio grym – mae’r ddwy yn gadarn o blaid aros yn rhan o Sbaen.

Ond mae Ernesto Pascual yn dadlau beth bynnag sy’n digwydd, na fydd pobol Catalwnia yn troi eu cefn ar y syniad o annibyniaeth gan ei fod bellach yn rhan o feddylfryd y genedl.

Cofio

Yn y cyfamser, daeth y mudiad annibyniaeth ynghyd dros y penwythnos i gofio Lluís Companys, cyn-Arlywydd Catalwnia a gafodd ei ladd gan gyfundrefn Franco 82 o flynyddoedd yn ôl.

Fe fu mudiadau gwleidyddol yn gosod blodau ger ei fedd ar fryn Montjuïc yn Barcelona.

Ar Ionawr 1, 1934, ffurfiodd e lywodraeth glymblaid yn dilyn marwolaeth Francesc Macià ar Ddydd Nadolig 1933, oedd wedi bod yn arwain cabinet o aelodau Esquerra yn unig.

Mae Esquerra ar eu pen eu hunain yn y llywodraeth bresennol, ac yn wynebu’r her o arwain fel llywodraeth leiafrifol a symudiad posib y bobol tua’r asgell dde – rhywbeth mae Pere Aragonès yn benderfynol o frwydro yn ei erbyn, meddai ar ôl gosod blodau ger y bedd.

Fe ddywedodd yn ei araith, “Os ydym yn anghofio bod ffasgiaeth yn bodoli, mae ffasgiaeth yn dychwelyd”.

Ac fe wnaeth Jordi Turull, ysgrifennydd cyffredinol Junts per Catalunya, gymharu lladd Companys â’r sefyllfa bresennol, lle mae’r awdurdodau’n ceisio tawelu torfeydd ac unigolion sydd o blaid annibyniaeth gan ddefnyddio’r cyfansoddiad.

Dywedodd fod “carfannau lladd bellach yn gwisgo gwisg barnwr”.