Y cylch truenus o anghydraddoldeb – mae’n hen bryd cael i ffwrdd, meddai Natasha Davies, Arweinydd Polisi ac Ymchwil yn elusen cydraddoldeb rhywedd flaenllaw Cymru, Chwarae Teg.
Dyma ni eto. Argyfwng arall, rhybudd arall bod menywod yn fwy agored i effeithiau gwaethaf yr argyfwng hwnnw. Ond mae’n rybudd y mae’n rhaid i ni ei roi, ac mae’n rhaid cymryd hynny o ddifrif.
Wrth i’r argyfwng costau byw barhau i frathu, gallwn eisoes weld yr effaith wirioneddol y mae’n ei chael ar fenywod yng Nghymru, a ledled y Deyrnas Unedig.
Canfu’r Young Women’s Trust fod 54% o fenywod ifanc yn dweud ei bod yn ‘frwydr wirioneddol’ i wneud i arian parod bara tan ddiwedd y mis. Gyda hyn yn codi i 75% o famau sengl. Canfu’r Sefydliad Cyflog Byw fod 42% o fenywod ar gyflogau isel eisoes ar ei hôl hi o ran talu biliau’r cartref a bod 35% wedi hepgor prydau bwyd am resymau ariannol.
Gwyddom, o waith ymchwil blaenorol, fod menywod yn fwy tebygol o fynd heb bethau er mwyn sicrhau nad yw eu teuluoedd yn gorfod gwneud, gan dorri’n ôl ar eu bwyd a’u pethau ymolchi eu hunain a pheidio â phrynu dillad neu esgidiau newydd. Mae hyn ond yn debygol o waethygu wrth i bwysau ariannol ar aelwydydd gynyddu dros y gaeaf.
Gwyddom hefyd fod yr argyfwng costau byw yn gadael rhai menywod mewn mwy o berygl o gam-drin domestig a thrais. Nid yw cam-drin ariannol yn anghyffredin, ac mae sefydliadau trais yn erbyn menywod eisoes yn adrodd bod yr argyfwng yn cael ei ddefnyddio fel arf o reolaeth orfodol a bod rhai menywod yn cael eu hatal rhag gadael perthnasoedd camdriniol o ganlyniad.
Ond pam ydyn ni yma eto? Gwnaethpwyd yr un rhybuddion ar ôl argyfwng ariannol 2008, a thrwy gydol pandemig Covid-19. Dro ar ôl tro, argyfwng ar ôl argyfwng, gwelwn yr un grwpiau yn cael eu gadael fwyaf agored i’r effeithiau gwaethaf – menywod, pobol anabl a lleiafrifoedd ethnig, y rhai ar incwm isel, rhieni sengl…
Mae hyn yn ganlyniad uniongyrchol i’r anghydraddoldeb parhaus sy’n amlwg ar draws ein cymdeithas a’n heconomi. Roedd menywod eisoes yn fwy tebygol o fod yn byw mewn tlodi, yn enwedig rhieni sengl – y mwyafrif ohonynt yn fenywod. Mae hyn yn golygu bod menywod eisoes yn wynebu sefyllfa ariannol llawer mwy ansicr nag eraill, a fydd ond yn gwaethygu ymhellach wrth i gost ynni, bwyd a hanfodion eraill gynyddu.
Yn gysylltiedig â hyn, mae goruchafiaeth menywod mewn gwaith cyflog isel, rhan-amser ac ansicr. Mae’r Safon Isafswm Incwm, sy’n seiliedig ar y safonau byw yr ydym ni fel cymdeithas yn cytuno y dylai pawb allu eu cael, wedi’i gyfrifo i fod yn £25,000 yn 2022. Yng Nghymru, incwm blynyddol cyfartalog menywod yw £20,000. Mae bodolaeth barhaus y bwlch cyflog ar sail rhywedd yn dangos bod menywod yn dal i brofi anghydraddoldeb cyflog ac mae ffigurau’n dangos eu bod yn llawer mwy tebygol o gael eu talu’n llai na’r Cyflog Byw gwirioneddol. Wrth i brisiau godi yn gyflymach na chyflogau, bydd pwysau ar incwm yn cael ei deimlo’n fwy difrifol gan fenywod.
Mae angen gweithredu ar frys i sicrhau bod menywod yn cael eu cefnogi wrth i’r argyfwng costau byw ddyfnhau a phwysau chwyddiant gynyddu. Mae angen newidiadau i nawdd cymdeithasol i gefnogi’n well y rhai sydd fwyaf mewn perygl o galedi ariannol a mynd i dlodi. Rhaid i fudd-daliadau gael eu huwchraddio yn unol â chwyddiant, dylid diddymu’r cap budd-daliadau a’r cyfyngiad dau blentyn, a dylid newid blaendaliadau Credyd Cynhwysol i grantiau nad ydynt yn ad-daladwy. Croesewir y warant pris ynni a chymorth gyda biliau ynni dros y gaeaf, ond nid ydynt yn mynd yn ddigon pell i’r rhai sydd â’r angen mwyaf.
Mae angen newidiadau yng Nghymru hefyd. Dylid cyflymu’r gwaith i ddod â chynlluniau cymorth prawf modd at ei gilydd mewn system fudd-daliadau Cymreig. Dylid ystyried llinell gymorth costau byw i ddarparu siop-un-stop ar gyfer cyngor ar yr holl gymorth sydd ar gael, a gellid lleihau’r pwysau ar incwm aelwydydd ymhellach drwy gyflwyno gofal plant am ddim i blant dan ddwy yn gyflymach a chamau i reoleiddio neu rewi rhenti yn y sector rhentu preifat.
Yn y tymor hwy, ni allwn fforddio anwybyddu problem anghydraddoldeb. Mae cost peidio â gweithredu, i unigolion, ein heconomi, a’n lles, yn llawer rhy fawr. Yn wyneb rhyfeloedd diwylliannol a grëwyd yn artiffisial ac ymdrechion i hybu rhaniad rhwng grwpiau ymylol a difreintiedig, rhaid inni gadw ffocws ac ymrwymiad ar y cyd i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb wrth ei wraidd. Bydd hyn yn golygu gwahanol benderfyniadau ynghylch beth i fuddsoddi ynddo a beth i’w flaenoriaethu; bydd yn golygu newid sut rydym yn gwneud pethau nid dim ond yr hyn a wnawn.
Dair blynedd yn ôl, nododd Chwarae Teg argymhellion ar gyfer sut y gallwn wneud i’r newid hwn ddigwydd. Mae adroddiad yr Adolygiad o Gydraddoldeb Rhywedd Yng Nghymru – Gwneud Nid Dweud yn darparu fframwaith clir â thystiolaeth dda i wreiddio cydraddoldeb wrth wraidd y broses o wneud penderfyniadau. Y cyntaf y daw’r ffordd hon o weithio yn fusnes fel arfer ar draws y llywodraeth, y cyflymaf y gallwn wneud cynnydd tuag at Gymru wirioneddol gyfartal. Ac efallai y tro nesaf y byddwn yn wynebu argyfwng cenedlaethol neu ryngwladol, ni fydd angen i ni ddarparu’r math hwn o rybudd.