Mae’r datblygiad diweddaraf ar gyfer ailgyflwyno ynni niwclear yn Nhrawsfynydd wedi codi yn sgil “pwysau gwleidyddol” gan San Steffan, yn ôl mudiad CND Cymru.

Yn ôl y mudiad gwrth-niwclear, maen nhw ar ddeall bod y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth rhwng yr Awdurdod Datgomisiynu Niwclear a Chwmni Egino wedi codi yn sgil y pwysau gan Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

Yn sgil y Memorandwm, gall yr Awdurdod Datgomisiynu rannu gwybodaeth am y safle yn Nhrawsfynydd, a threfnu’r gwaith datgomisiynu i gyd-fynd â phrosiect niwclear newydd posib.

Cafodd Cwmni Egino ei sefydlu gan Lywodraeth Cymru y llynedd “er mwyn creu swyddi cynaliadwy a hyrwyddo adfywiad cymdeithasol-economaidd drwy hwyluso datblygiad ar safle’r hen orsaf bŵer” yn Nhrawsfynydd.

Ond mae CND Cymru’n dweud eu bod nhw wedi cael gwybod bod “rhwymedigaeth” ar yr Awdurdod Datgomisiynu Niwclear i gydweithredu ag unrhyw ddatblygwr niwclear i ddod o hyd i dir ar safleoedd yr hen orsafoedd niwclear yn Nhrawsfynydd a Wylfa, Ynys Môn.

‘Peri gofid mawr’

Mewn datganiad ar y cyd, dywed CND Cymru, Cymdeithas y Cymod, CADNO a PAWB, fod y pwysau gwleidyddol hwn ar niwclear yn “peri gofid mawr”.

“Rydyn ni’n galw ar y llywodraeth yn San Steffan i ddargyfeirio’r pwysau ar niwclear tuag at adeiladu ynni adnewyddadwy gwirioneddol,” meddai’r mudiadau yn y datganiad.

“Galwn ymhellach ar Lywodraeth Cymru, Llafur Cymru, Plaid Cymru, a’r Democratiaid Rhyddfrydol i wrthwynebu unrhyw ddatblygiad niwclear yng Nghymru, neu i ailgyhoeddi eu gwrthwynebiad.

“Yr unig ffordd i osgoi trychineb hinsawdd yw adeiladu systemau cynhyrchu ynni wedi’u pweru gan Donnau, Gwynt, Llanw a Solar.”

 

Cynlluniau ar gyfer datblygiad niwclear newydd yn Nhrawsfynydd yn cymryd cam ymlaen

Mae’r Awdurdod Datgomisiynu Niwclear wedi llofnodi Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth gyda Chwmni Egino i gefnogi datblygiad “prosiect niwclear bychan” yno