Mae Jeremy Hunt wedi datgelu ei fod yn gwrthdroi “bron pob un” o’r toriadau treth a gafodd eu cyhoeddi yng nghyllideb fach ei ragflaenydd, a’i fod yn cwtogi ar gefnogaeth ar filiau ynni.
Mewn datganiad brys, dywedodd y Canghellor y bydd toriad o 1c i’r dreth incwm yn cael ei ohirio “am gyfnod amhenodol” nes bod cyllid y Deyrnas Unedig yn gwella, yn lle cael ei gyflwyno ym mis Ebrill y flwyddyn nesaf yn ôl y cyhoeddiad yng nghyllideb fach Kwasi Kwarteng dair wythnos yn ôl.
Dywed Jeremy Hunt, a gamodd i’r swydd ddydd Gwener (Hydref 14), mai dim ond tan fis Ebrill y bydd gwarant pris ynni’r llywodraeth yn gyffredinol, nid am ddwy flynedd yn ôl y cynllun gwreiddiol.
Ar ôl mis Ebrill, fe fydd y cynllun yn cael ei dargedu’n fwy yn dilyn adolygiad ynghylch sut i gefnogi biliau ynni pobol o’r amser hwnnw, meddai.
Mae’r newidiadau a gafodd eu cyhoeddi gan Jeremy Hunt yn cynnwys:
- dim toriadau i gyfraddau treth difidend
- diddymu llacio rheolau IR35 ar gyfer yr hunangyflogedig a gyflwynwyd yn 2017 a 2021
- dim cynllun siopa newydd heb TAW ar gyfer ymwelwyr tramor â’r DU
- dim rhewi ar gyfraddau treth alcohol
- cyfradd sylfaenol treth incwm i aros ar 20%, nid gostwng i 19% o fis Ebrill 2023
- gwarant pris ynni tan fis Ebrill 2023 yn unig.
Y bunt yn ymateb yn gadarnhaol
Mae’r bunt wedi ymateb yn gadarnhaol i gyhoeddiad Jeremy Hunt, yn ôl yr economegydd Dr Edward Jones, sy’n darlithio ym Mhrifysgol Bangor.
Y neges tymor byr, meddai, yw fod y Canghellor newydd wedi gwneud y “peth cywir”, ond y bydd hi’n ddiddorol gweld cyllideb lawn San Steffan ddiwedd y mis.
“Mae hi’n ddiwrnod diddorol, mae’n siŵr. Dw i wedi canolbwyntio mwy ar farchnad guild, sef dyled y wlad a be sy’n digwydd i’r bunt,” meddai wrth golwg360.
“Mae’r ddau yna wedi ymateb yn weddol bositif i be’ sydd wedi digwydd heddiw, yn gyrru signal clir nad oedd neb yn hapus efo’r mini-budget gafodd ei gyhoeddi ychydig wythnosau’n ôl.”
Yn fuan ar ôl i Jeremy Hunt wneud ei gyhoeddiad, cododd gwerth y bunt gan 1.2% ac roedd hi’n gyfwerth ag 1.13 o ddoleri.
“Yn sicr, rydyn ni ar y trywydd cywir. Doedd neb yn edrych yn ffafriol ar y mini-budget yna, felly’n sicr y cam cyntaf oedd cael gwared ar y mini-budget a be gafodd ei gyhoeddi.
“Dw i’n cael yr argraff mai dyna be mae Jeremy Hunt wedi’i wneud heddiw, mae o wedi sgrapio’r rhan fwyaf o’r polisiau.
“Mae o wedi cadw rhai wrth gwrs, ond ar y cyfan fedran ni gymryd bod y mini-budget wedi cael ei sgrapio, ac mae’r farchnad wedi ymateb yn bositif i hyn.”
‘Ymateb tymor byr’
Mae’n bosib ystyried yr ymateb heddiw fel un tymor byr, meddai Dr Edward Jones.
“Yn sicr, y neges ydy bod Jeremy Hunt i weld yn gwneud y peth cywir ond be’ fydd yn ddiddorol ydy gweld sut fydd pobol yn ymateb i’r gyllideb ddiwedd y mis yma.
“Yn fan hynny, fydd rhywun yn gallu meddwl yn fwy hirdymor be fydd effaith y polisiau.
“Mi oedd yna neges glir yn cael ei ei gyrru gan y farchnad eu bod nhw ddim yn hapus efo be oedd wedi cael ei gyhoeddi, doedd llawer o wleidyddion ddim yn hapus, na llawer o’r boblogaeth.
“Dydy o ddim yn syndod gen i bod Jeremy Hunt wedi gwneud hyn.
“Roedd rhaid iddo fo wneud rhywbeth i blesio’r marchnadoedd, yn sicr os oedd o am gael arian ganddyn nhw.
“Mae hon wedi bod yn wers galed i’r Llywodraeth, efallai, a dw i’n gweld nhw’n trio’i chwarae hi’n sâff, efallai, yn y gyllideb nesaf.”
‘Dim dewis’
Mae’r economegydd Dr John Ball yn cytuno bod rhaid i Jeremy Hunt wneud rhywbeth i sefydlogi’r farchnad.
“Hyd at heddiw, mae’r [penderfyniadau] wedi dangos pa mor economaidd anllythrennog yw’r llywodraeth hwn,” meddai wrth golwg360.
“Fel economegydd, roeddwn i wedi fy synnu eu bod nhw wedi cwtogi trethi yn ystod cyfnod o chwyddiant.
“Mae hynny’n mynd yn groes i bob theori economaidd a phob arfer economaidd.
“Yn ystod cyfnod o chwyddiant, rydych chi’n gwario llai yn hytrach na gadael i wariant gynyddu.
“Dywedodd y marchnadoedd: ‘Allwch chi ddim gwneud hyn’, a dyna le ddechreuodd y drafferth.
“Felly, beth bynnag roedd Hunt yn ei gyhoeddi bore yma, doedd ganddo ddim dewis ond sefydlogi’r marchnadoedd.”
‘Dyfodol mwy sefydlog a llewyrchus gydag annibyniaeth’
“Mae’r Prif Weinidog dros dro, Jeremy Hunt, dan gochl ‘cyfrifoldeb cyllidol’ yn bwriadu gosod mwy o lymder poenus ar y cyhoedd,” meddai Liz Saville Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan.
“Mae’r Torïaid wedi difetha’r economi ac yn awr yn barod i orfodi’r tlotaf i dalu’r pris unwaith eto.
“Mae San Steffan mewn anhrefn lwyr – yn methu â rhoi unrhyw sicrwydd i deuluoedd sy’n wynebu biliau gormodol a morgeisi mawr.
“Mae llawer wedi cyllidebu o dan y ddealltwriaeth y byddai eu biliau ynni yn cael eu capio am ddwy flynedd.
“Mae mynd yn ôl ar yr addewid hwnnw yn anfaddeuol.
“Roedd naïfrwydd Llafur wrth oddef y toriad treth mwyaf oll – cyfradd sylfaenol y dreth incwm – yn siomedig tu hwnt.
“Gwrthwynebodd Plaid Cymru’r toriad treth di-hid hwn gan ein bod yn credu’n gryf mewn gwasanaethau cyhoeddus a ariennir yn briodol.
“Yn y cyfamser, mae Llywodraeth yr Alban heddiw yn amlinellu cynlluniau ar gyfer economi decach, wyrddach drwy annibyniaeth.
“Rhaid i’r syrcas hon yn San Steffan wneud i ni yng Nghymru gydnabod y gallwn ninnau hefyd gael dyfodol mwy sefydlog a llewyrchus gydag annibyniaeth.”
Dirwasgiad dyfnach a hirach
“Bydd camau’r Canghellor yn crebachu’r economi gan achosi dirwasgiad dyfnach a hirach,” meddai Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru.
“Byddwn i gyd yn talu’r pris am eu methiannau.
“Er nad ydym yn gallu eich amddiffyn yn llawn yn erbyn y toriadau yma, byddwn yn parhau i wneud popeth a allwn i’ch helpu drwy’r argyfwng hwn.”